top of page
Search

Asesiadau Personol ** Personal Assessments

  • Writer: Rhydywaun
    Rhydywaun
  • 1 day ago
  • 3 min read

Gwybodaeth i Rieni: Asesiadau Personol ac Adborth y Dysgwr

 

Beth yw’r Asesiadau Personol?

Mae Asesiadau Personol yn asesiadau ar-lein statudol mewn Darllen a Rhifedd ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 2 i Flwyddyn 9 yng Nghymru.

 

Mae'r asesiadau hyn yn helpu i:

  • Olrhain cynnydd eich plentyn dros amser

  • Nodi cryfderau ac ardaloedd i'w gwella

  • Hwyluso addysgu a dysgu yn y dosbarth

 

Mae'r asesiadau’n addasol – mae’r cwestiynau’n newid yn ôl atebion eich plentyn, gan wneud y profiad yn fwy personol.

 

Pa Feysydd Sy’n Cael eu Hasesu?

  1. Darllen (yn Gymraeg a Saesneg)

  2. Rhifedd – Gweithdrefnol (ffeithiau a dulliau mathemategol)

  3. Rhifedd – Rhesymu (datrys problemau gan ddefnyddio meddwl mathemategol)

 

Sut Mae’r Dysgwyr yn Cwblhau’r Asesiadau?

Mae’r asesiadau’n cael eu cwblhau ar-lein yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd.

 

Sut Gall Rieni Gael Mynediad at Adborth?

Mae modd gweld adborth unigol eich plentyn trwy Hwb – llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru.

 

Cam wrth Gam:

  1. Ewch i: https://hwb.gov.wales

  2. Mewngofnodwch gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair Hwb eich plentyn (nid cyfrif Rhydywaun eich plentyn)

  3. Ar y hafan, dewiswch "Asesiadau Personol".

  4. Cliciwch ar "Adborth y Dysgwr" i weld:

    • Cynnydd eich plentyn dros amser

    • Dadansoddiad o’u perfformiad mewn gwahanol feysydd

    • Awgrymiadau ar gyfer camau nesaf

Mae modd lawrlwytho adroddiad PDF ar gyfer eich cofnodion neu i’w drafod gyda’ch plentyn.

 

Beth Mae’r Adborth yn ei Olygu?

Mae’r adborth yn helpu cefnogi dysgu eich plentyn drwy ddangos:

  • Beth maen nhw'n ei wneud yn dda

  • Beth oedd yn fwy heriol

  • Camau nesaf i’w helpu i wneud cynnydd

 

Nid yw’n brawf “pasio neu fethu”. Mae’n ffordd o sicrhau bod pawb yn deall anghenion dysgu’r plentyn a sut i’w cefnogi.

 

 

Information for Parents: Personal Assessments and Learner Feedback

 

What are Personal Assessments?

Personal Assessments are statutory online assessments in Reading and Numeracy for learners in Years 2 to 9 in Wales.

 

These assessments help to:

  • Track your child’s progress over time.

  • Identify strengths and areas for improvement.

  • Inform teaching and learning in the classroom.

 

They are designed to be adaptive, meaning the difficulty of the questions adjusts to your child’s responses – making the experience more personalised.

 

What Areas Are Assessed?

  1. Reading (in English and Welsh)

  2. Numeracy – Procedural (mathematical facts and methods)

  3. Numeracy – Reasoning (solving problems using mathematical thinking)

 

How Do Learners Access the Assessments?

Assessments are completed online at school during the academic year.

 

How Can Parents Access Feedback?

You can view your child’s individual assessment feedback via Hwb – the digital learning platform for Wales.

 

 Step-by-step Guide:

  1. Go to: https://hwb.gov.wales

  2. Log in using your child’s Hwb username and password (not their school Rhydywaun account)

  3. From the homepage, select "Personalised Assessments".

  4. Click on "Learner Feedback" to view:

    • Your child’s progress over time

    • A breakdown of how they did in different areas

    • Guidance on how they can improve

You can also download a PDF report for your own records or to discuss with your child.

 

What Does the Feedback Mean?

Feedback is intended to support your child’s learning by highlighting:

  • What they can do well

  • What they found more challenging

  • Suggested next steps to help them make progress

 

It is not a “pass or fail” system. Instead, it helps teachers and families understand how best to support your child’s learning journey.


 


 
 
 

Recent Posts

See All
Am Wythnos! What a week!

Wel am wythnos brysur!  Mae lluniau ar y ffordd… Cyfweliadau Blwyddyn 10 Diolch yn fawr i Syniad Da, Gyrfa Cymru, Y Fyddin, Viridor,...

 
 
 

Comments


Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, 
Lawrence Avenue, Penywaun, Rhondda Cynon Taf, CF44 9ES
01685 813500

© 2025 Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun

bottom of page