top of page

YSGOL GYFUN GYMRAEG
RHYDYWAUN

Croeso gan y Brifathrawes

 

Yn Rhydywaun rydym yn ymrwymo i sicrhau lles, uchelgais a’r cyfleoedd gorau i bawb.

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r wefan hon i chi. Cewch ynddi‘r newyddion a
gwybodaeth ddiweddaraf gan Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun.

 

Caiff disgyblion yr Ysgol eu haddysg ar gampws ag ynddo gyfleusterau modern a
phwrpasol. Mae gennym staff brwd, ymroddgar sy’n sicrhau cynnydd a llwyddiant ein pobl
ifanc gan sefydlu sgiliau ac egwyddorion cadarn a fydd yn cynnal ac yn ysgogi dysgu gydol oes. 

 

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, rhown bwys ar les yr unigolyn a datblygiad personol mewn hinsawdd sy’n seiliedig ar ofal, hunan-barch a pharch at eraill. Mae cymell pawb i wireddu potensial ac uchelgais yn golygu darparu cyfleoedd amrywiol, cydnabod llwyddiant a meithrin doniau a chwilfrydedd yr unigolyn. 
 

Trwy Ffordd Rhydywaun, anelwn at feithrin balchder disgyblion yn eu hetifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol ynghyd â’r hyder i gyfrannu’n gadarnhaol at gymuned yr ysgol a’r gymuned ehangach.

Mae partneriaeth agos rhwng y cartref a’r ysgol yn allweddol er mwyn sicrhau safonau uchel ymhob agwedd ar waith yr ysgol a’r gynhaliaeth orau ar gyfer ein disgyblion. 
 

Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos fel teulu Rhydywaun

Miss Lisa Williams

Gwir. Gweithgar. Gwych

Welcome from the Headteacher

At Rhydywaun we are committed to ensuring wellbeing, ambition and the best opportunities for all.

Welcome to our website. Here you will find the latest news and information for Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun.
 Pupils are educated on a campus with modern and purposeful amenities. We have enthusiastic and committed staff who ensure the progress and success of our young people, establishing solid foundations and principles that will sustain and promote lifelong learning.
 

At Rhydywaun we place emphasis on the welfare of the individual and the development of skills in a climate based upon care, self respect and respect for others. Motivating pupils to realise their potential and aspirations means providing a variety of opportunities, recognising successes and nurturing the talent and curiosity of the individual. 
 

Through Ffordd Rhydywaun, we aim to foster a sense of pride in pupils’ Welsh language and cultural heritage as well as develop their confidence to contribute positively to the school community and the wider community.

A close partnership between home and school is key to ensuring high standards in all aspects of school work and continued support for our pupils.
 

We look forward to working closely with you as part of teulu Rhydywaun.

Mae dangos parch at y Gymraeg, ein hunain, ein gilydd, ein dysgu ac ein hamgylchfyd, yn creu cymuned lwyddiannus.

 

Miss Lisa Williams

Gwir. Gweithgar. Gwych

Lisa.jpg
bottom of page