top of page
E-Ddiogelwch | E-Safety

E-ddiogelwch

 

Mae e-ddiogelwch yn rhan bwysig o’r addysg yn Rhydywaun ac fe’i cynhwysir yn ystod gwersi Llythrennedd Digidol / TGCh.

 

Peidiwch â gadael i unrhyw un arall ddefnyddio’ch cyfrif na’ch cyfrinair.

 

Ysgrifennwch negeseuon e.e. e-byst yn ofalus ac yn gwrtais.

 

Defnyddiwch wefannau sy’n briodol ar gyfer eich oedran a’ch addysg.

 

Peidiwch ymateb i unrhyw negeseuon cas/bygythiol boed trwy eich ffôn symudol,

e-bost neu rwydwaith cymdeithasol. Cadwch y dystiolaeth a’i dangos i oedolyn

cyfrifol.

 

Peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol ar rwydweithiau cymdeithasol, drwy e-bost neu

neges destun e.e cyfeiriad, rhif ffôn. Defnyddiwch lysenw ar gyfer eich proffil.

 

Cadwch eich proffil yn breifat.

 

Peidiwch â threfnu i gwrdd ag unrhywun yr ydych wedi cwrdd â nhw ar lein. Mae’n

bosib nad yw’r person hwn fel oeddech yn disgwyl iddo/iddi fod, mae dweud

celwydd ar lein yn hawdd. Os oes unrhywun yn gofyn i gwrdd â chi, dywedwch wrth

oedolyn cyfrifol.

 

Meddyliwch yn ofalus cyn postio unrhyw luniau ar y we e.e. Facebook, Twitter,

Snapchat, TikTok a.y.b. Unwaith i chi bostio ar lein rydych yn colli rheolaeth o’r llun

ac ni fydd modd rheoli pwy sydd yn ei weld!

 

Os ydych yn gweld unrhywbeth ar lein neu drwy eich ffôn symudol sydd yn achosi pryder, dangoswch ef i oedolyn cyfrifol.

 

Nid oes gan yr ysgol unrhyw reolaeth dros rwydweithiau cymdeithasol megis

Snapchat, Facebook, TikTok, Twitter a.y.b. Os oes problem yn codi drwy ddefnyddio’r rhain

bydd angen trafod gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddyn nhw a delio gyda’r

broblem gan gysylltu yn uniongyrchol gyda Snapchat/Facebook/TikTok/Twitter neu’r Heddlu.

 

Am fwy o wybodaeth ar e-ddiogelwch, ewch i https://www.thinkuknow.co.uk

​

E-safety

 

E-safety is an important part of the education here at Rhydywaun and is included in
Digital Literacy/ICT lessons.

 

Don't let anyone else use your account or password.

 

Write messages and emails carefully and politely.

 

Only use websites that are appropriate for your age and education.

 

Do not respond to any nasty / threatening messages whether via your mobile phone,

email or social network. Save the evidence and show it to a responsible adult.

 

Do not put or send personal information on social networks, by email or text message i.e. address, telephone number. Use a nickname for your profile.

 

Keep your profile private.

 

Do not arrange to meet anyone you have met online. This person may not be what you expected them to be, lying online is easy. If anyone asks to meet you, please tell a responsible adult.

 

Think carefully before posting any photos on the internet e.g. Facebook, Twitter,

Snapchat, TikTok. Once you post online you lose control of the picture and it will not be possible to control who sees it!

If you see anything online or through your mobile phone that is a cause for concern, show it to a responsible adult.

 

The school has no control over social networks such as Snapchat, Facebook, TikTok, Twitter a.y.b. If there is a problem using these platforms, you will need to talk to a trusted adult and deal with the problem by contacting Snapchat / Facebook / TikTok / Twitter or the Police.

 

For more information on e-safety, visit  https://www.thinkuknow.co.uk

​

​

Eddiogelwch.png
Think U Know.png
bottom of page