Am Wythnos! What a week!
- Rhydywaun
- 11 minutes ago
- 2 min read
Wel am wythnos brysur! Mae lluniau ar y ffordd…
Cyfweliadau Blwyddyn 10
Diolch yn fawr i Syniad Da, Gyrfa Cymru, Y Fyddin, Viridor, Bwrdd Iechyd Cwm Taf a Choleg y Cymoedd a ddaeth i’r ysgol i gyfweld â disgyblion Blwyddyn 10. Cafwyd clod mawr i ymrwymiad a brwdfrydedd ein disgyblion – da iawn chi!
Athletau
Roedd llwyth o ddisgyblion o Flwyddyn 7 hyd at Flwyddyn 10 wedi torri recordau personol yng nghystadlaethau athletau Sir Cymoedd Morgannwg – llongyfarchiadau mawr i bawb!
Blwyddyn 6
Braf oedd croesawu disgyblion Blwyddyn 6 ein clwstwr i'r ysgol am ddeuddydd o weithgareddau.
Edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd fis Medi!
Gŵyl o Ddathlu
Ar nos Iau, cafwyd noson bendigedig yng nghwmni disgyblion talentog Rhydywaun fel rhan o’n Gŵyl o Ddathlu.
DIOLCH o galon i bawb a ddaeth i gefnogi, ac i'r holl ddisgyblion ac athrawon a fu’n rhan o’r paratoadau.
Mabolgampau
I orffen yr wythnos, cawsom ddiwrnod Mabolgamp penigamp yn Stadiwm Ron Jones, Aberdâr. Roedd yn arbennig gweld holl dalentau ein disgyblion yn disgleirio ar y trac a’r maes – a gweld dyfalbarhad, ysbryd cystadleuol a chefnogaeth wirioneddol rhwng y disgyblion.
YMLAEN RHYDYWAUN!
What a busy week! Pictures are on the way…
Year 10 Interviews
A big thank you to Syniad Da, Careers Wales, The Army, Viridor, Cwm Taf Health Board, and Coleg y Cymoedd who came to school to interview our Year 10 pupils.
There was high praise for the commitment and enthusiasm shown by our pupils – da iawn chi!
Glamorgan Valleys Athletics
Lots of pupils from Years 7 to 10 achieved personal bests in the Glamorgan Valleys athletics competitions – huge congratulations to everyone!
Year 6
It was a pleasure to welcome the Year 6 pupils from our cluster to the school for two days of activities.
We look forward to seeing you all in September!
Festival of Celebration
On Thursday evening, we enjoyed a wonderful night in the company of Rhydywaun’s talented pupils as part of our Festival of Celebration. A big DIOLCH to everyone who came to support, and to all the pupils and staff involved in the preparations.
Sports Day
To finish the week, we had a fantastic Sports Day at the Ron Jones Stadium, Aberdare. It was amazing to see our pupils' talents shining on the track and field – and to witness perseverance, sportsmanship, and genuine support between pupils.
YMLAEN RHYDYWAUN!
Comments