top of page
Search
  • Writer's pictureRhydywaun

Budd-dal Plant HMRC Child Benefit

Ymestynnwch hawliad Budd-dal Plant eich plentyn yn ei arddegau heddiw.

Mae’n bryd i rieni ledled y DU ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant os yw eu plentyn yn 16 i 19 oed ac yn parhau mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy.

Anfonodd CThEF 1.4 miliwn o lythyrau at rieni rhwng 24 Mai a 17 Gorffennaf, yn esbonio sut i ymestyn eu hawliad. Os nad ydych chi wedi cael llythyr eto, peidiwch â phoeni. Gallwch ymestyn eich Budd-dal Plant o hyd drwy ap CThEF neu ar-lein lle bo hynny’n gymwys.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig y gall Budd-dal Plant fod i deuluoedd, felly rhowch wybod i CThEF erbyn 31 Awst os yw’ch plentyn yn bwriadu parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy.

Bydd ymestyn eich Budd-dal Plant yn sicrhau na fyddwch yn colli allan ar unrhyw daliadau o 31 Awst. Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn newid ei feddwl am addysg bellach neu hyfforddiant, gallwch roi gwybod i CThEF ar-lein neu drwy’r ap a byddwn yn gallu diweddaru ein cofnodion ac addasu unrhyw daliadau yn ôl yr angen.

Os na all rhieni ymestyn eu Budd-dal Plant ar-lein, gallan nhw wneud hynny drwy’r post neu dros y ffôn.




Extend your Child Benefit claim for your teen today.

It’s time for parents across the UK to extend their Child Benefit claim if their 16-19-year-old is staying in full-time non-advanced education or approved training.

HMRC sent 1.4 million letters between 24 May and 17 July to parents, explaining how to extend their claim. If you haven’t received a letter, there’s no need to worry. You can still extend your Child Benefit via the HMRC app or online where eligible.

We know how important Child Benefit can be to families, so let HMRC know by 31 August if your teen intends to stay in approved education or training.

Extending your Child Benefit ensures you won't miss out on any payments from 31 August. However, if your child changes their mind about further education or training, you can simply let HMRC know online or in the app and we’ll update our records and adjust any payments as needed.

For parents who can’t extend their Child Benefit online, you can still do so by post or by phone.





24 views

Recent Posts

See All

תגובות


bottom of page