top of page
Search

Cylchlythyr Haf 2026 ** Summer 2026 Newsletter

  • Writer: Rhydywaun
    Rhydywaun
  • Jul 17
  • 24 min read

Pwt y Pennaeth

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf.

Hoffwn ddweud diolch enfawr i holl staff, disgyblion, Llywodraethwyr a

rhieni / gofalwyr Rhydywaun.

Ers ddechrau’r flwyddyn, mae'r staff a'r disgyblion wedi bod yn wych ac rydym wedi

profi blwyddyn lwyddiannus iawn unwaith eto eleni.

Diolch am eich ymrwymiad a'ch ymroddiad. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch

caredigrwydd. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich holl gefnogaeth a’ch anogaeth ac

edrychwn ymlaen yn gyffrous at flwyddyn academaidd newydd.

 

Ar gyfer mis Medi, mae rhai newidiadau i strwythur arweinyddiaeth yr ysgol. Ers blwyddyn bellach, rwyf wedi cael y fraint o weithio’n agos gydag ysgolion eraill yr awdurdod lleol fel Swyddog Gwella Ysgolion. Mae’r secondiad yn parhau o Fedi 2026, fydd yn fy nghymryd allan o’r ysgol am gyfnodau estynedig. Yn sgil hyn, mae Mrs Betsan Jones yn camu i rôl Pennaeth Ysgol dros dro a Mr Huw Voyle yn camu i rôl Dirprwy Bennaeth dros dro. Mae Mrs Hannah Jones hefyd yn ymuno â Uwch Dim Arwain yr ysgol.

Bydd y newidiadau hyn yn eu lle am y flwyddyn academaidd hyd at ddiwedd Awst 2027.

 

Dymuniadau gorau i Mrs H Morgan, Miss E Roberts a Miss S Llewellyn sydd yn ein gadael ar ddiwedd y flwyddyn a phob hwyl i Miss E Parry sy’n cymryd cyfnod sabothol am flwyddyn.


Mae Mrs Hefina Morgan yn ein gadael ni ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl dros 30 mlynedd fel athrawes a Phennaeth Blwyddyn.

Mae Mrs Morgan wedi ymroi ei gyrfa’n llwyr i sicrhau'r gofal a'r gefnogaeth orau i'n disgyblion. Mae ei hymrwymiad i'n disgyblion wedi bod yn ddi-baid a bydd colled anferth ar ei hôl.

Diolch o galon, Mrs Morgan.

 

Diolch enfawr i bob un ohonoch - Haf hapus i chi gyd!

Miss Lisa Williams

Headteacher’s Thoughts

I would like to say a huge thank you to all staff, pupils, Governors and

Rhydywaun's parents / carers.

Thank you for your continuous support over the past year.

Since the beginning of the year, the staff and pupils have been fantastic and we have

experienced another very successful year.

Thank you for your commitment and dedication.

Thank you for your understanding and kindness, we really appreciate all your support and encouragement and we look forward to a new academic year.

 


For September, there are some changes to the school's leadership structure. For a year now, I have had the privilege of working closely with other local authority schools as a School Improvement Officer. This secondment continues from September 2026 and it will take me out of school for extended periods. As a result, Mrs Betsan Jones steps into the role of temporary Head of School and Mr Huw Voyle steps into the role of temporary Deputy Head. Mrs Hannah Jones also joins the school's Senior Leadership Team as an Assistant Headteacher. These changes will be in place for the new academic year until the end of August 2027.

 

Very best wishes to Mrs H Morgan, Miss E Roberts and Miss S Llewellyn who are leaving us at the end of the year and all the best to Miss E Parry who is taking a 12-month sabbatical.


Mrs Hefina Morgan is leaving us at the end of the year after over 30 years as a teacher and Head of Year.

Mrs Morgan has devoted her entire career to ensuring the best care and support for our pupils. Her commitment to our pupils has been unrelenting and she will be greatly missed.

Thank you for everything, Mrs Morgan.

 

Happy summer holidays to you all!

Miss Lisa Williams

Gwasanaeth Diwedd Blwyddyn

Ar Ddydd Iau, cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diwedd Blwyddyn ysgol gyfan, a oedd yn gyfle gwych i adlewyrchu ar flwyddyn lwyddiannus unwaith eto yma yn Rhydywaun. Cafodd y disgyblion gyfle i fwynhau perfformiadau rhagorol gan ein disgyblion talentog ac i wobrwyo disgyblion am bresenoldeb uchel ar draws pob blwyddyn.

Cyflwynodd Iestyn ac Elis o Flwyddyn 12 neges ysbrydoledig, gan ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn ac annog pawb i adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol.

Ar nodyn mwy emosiynol, roedd y gwasanaeth hefyd yn gyfle i ddweud hwyl fawr i’r staff a fydd yn ein gadael eleni. Rhoddwyd ein diolchiadau am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u cyfraniadau i deulu Rhydywaun dros y blynyddoedd.

End of Year Assembly

On Thursday, we held our whole‑school End of Year Assembly, which was a wonderful opportunity to reflect on another successful year here at Rhydywaun. Pupils enjoyed excellent performances from our talented students, and we celebrated high attendance and achievements across all year groups.

Iestyn and Elis from Year 12 delivered an inspiring message, celebrating the successes of the year and encouraging everyone to build on this achievement in the future.

On a more emotional note, the service was also an opportunity to say farewell to staff who will be leaving us this year. We expressed our thanks for their hard work, dedication and contributions to the Rhydywaun community over the years.

Dyddiadau Pwysig

17.07.26 - Diwrnod olaf i ddisgyblion 

20.07.26 - Dysgu Proffesiynol / Hyfforddiant STAFF (Ysgol ar gau)

13.08.26 - Canlyniadau Uwch ac Uwch Gyfrannol (A2, AS, Lefel 3) 

20.08.26 - Canlyniadau TGAU, Lefel 1/2 

01.09.26 - Dysgu Proffesiynol / Hyfforddiant STAFF (nid oes ysgol i ddisgyblion)

02.09.26 - Dysgu Proffesiynol / Hyfforddiant STAFF (nid oes ysgol i ddisgyblion)

03.09.26 - Ysgol i ddisgyblion Blwyddyn 7, 8, 9, 10, 11 a 12 yn unig

04.09.26 - Ysgol i ddisgyblion Blwyddyn 7, 8, 9, 10, 11 a 12 yn unig

07.09.26 - Ysgol i BAWB (disgyblion Blwyddyn 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13)


Diwrnodau Dysgu Proffesiynol / Hyfforddiant STAFF / Gŵyl y Banc 2026-2027

01.09.26

02.09.26

23.10.26

15.02.27

03.05.27 - Gŵyl y Banc

19.07.27

20.07.27


Bydd Calendr 2026 - 2027 yn dilyn ar ddechrau’r tymor newydd. 

Dyddiadau Pwysig

17.07.26 – Last day for pupils

20.07.26 – Professional Learning / STAFF Training (school closed)

13.08.26 – A Level and AS Level / Level 3 Results (A2, AS, Level 3)

20.08.26 – GCSE, Level 1/2 Results

01.09.26 – Professional Learning / STAFF Training (no school for pupils)

02.09.26 – Professional Learning / STAFF Training (no school for pupils)

03.09.26 – School for pupils in Years 7, 8, 9, 10, 11 and 12 only

04.09.26 – School for pupils in Years 7, 8, 9, 10, 11 and 12 only

07.09.26 – School for ALL pupils (Years 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13)


Professional Learning / STAFF Training Days / Bank Holiday 2026–2027

01.09.26

02.09.26

23.10.26

15.02.27

03.05.27 - Bank Holiday

19.07.27

20.07.27


The 2026–2027 Calendar will follow at the start of the new term.

Diwrnodau Canlyniadau

Blwyddyn 13: 13.08.26 08:00 - 10:30

Blwyddyn 12: 13.08.26 09:30 - 10:30

Blwyddyn 11: 20.08.26 08:30 -10:30

Blwyddyn 10: 20.08.26 canlyniadau ar gael drwy eu cyfrifon Student Portal

(Bromcom) o 10:00


Gweler y llythyr isod am fwy o wybodaeth.

Results Day

Year 13: 13.08.26 08:00 - 10:30

Year 12: 13.08.26 09:30 - 10:30

Year 11: 20.08.26 08:30 -10:30

Year 10: 20.08.26 results will be available through their Student Portal (Bromcom) accounts from 10:00.


Please see the letter below for more information.


It’s a Knockout Rhydywaun

Cafodd disgyblion a staff prynhawn llawn hwyl yn 'It’s a Knockout Rhydywaun', gyda’r cwrs rhwystrau enfawr yn darparu digon o her a chwerthin!

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd Ras y Staff, gyda’r athrawon yn cystadlu mewn gwisg ffansi a mewn 'inflatables' enfawr. Roedd y prynhawn yn llawn egni, chwerthin a chydweithio.

Diolch i Mrs Stansfield am drefnu brofiad cofiadwy ac yn ddiwedd arbennig i dymor prysur!

It’s a Knockout Rhydywaun

Pupils and staff enjoyed a fun‑filled afternoon at 'It’s a Knockout Rhydywaun', with the giant obstacle course providing plenty of challenge and laughter!

A highlight of the day was the Staff Race, with teachers competing in fancy dress and in huge inflatables.

The afternoon was full of energy, laughter and teamwork.

Thank you to Mrs Stansfield for arranging a memorable experience and a fantastic way to end a busy term!

Blwyddyn Lwyddiannus i Senedd yr Ysgol

Mae’r Senedd wedi cael blwyddyn brysur a llwyddiannus, gan sicrhau bod llais y disgyblion yn arwain gwelliannau ar draws yr ysgol.


Llais Disgyblion

Cynhaliwyd sesiynau “Sedd â’r Senedd” i gasglu barn disgyblion, a defnyddiwyd yr adborth i lywio penderfyniadau. Ailwampiwyd hysbysfyrddau fel rhan o “Gofynnoch chi… Gwnaethom ni”, a rhannodd cynrychiolwyr y Senedd y gwaith gyda’u grwpiau blwyddyn.


Gwelliannau i Ddiwrnodau ABCh

Defnyddiwyd adborth disgyblion i ail-lunio’r diwrnodau ABCh, gan roi mwy o bwyslais ar les a dinasyddiaeth. Trefnwyd siaradwyr gwadd, gan gynnwys Senedd Cymru, i ysbrydoli Blynyddoedd 11–13.


Prosiect Ffynnon Rhydywaun

Agorwyd y prosiect yn llwyddiannus, gan leihau defnydd o boteli plastig. Er i’r defnydd ostwng dros y gaeaf, mae’r ddarpariaeth wedi ailagor wrth i’r galw gynyddu.


Mwy o Amser ar y Cae 3G a gwella’r iard

Addaswyd y rota staffio i ganiatáu mwy o amser ar y cae 3G. Trefnwyd ail-baentio marciau’r iard yn ystod yr haf.



Buddsoddi yn adnoddau y Chweched Dosbarth

Sicrhawyd grant £500 gan YEPS ar gyfer ail-baentio, a chafwyd cefnogaeth gan IKEA i gynllunio mannau gwaith modern i’r Chweched Dosbarth.


Dewisiadau iachach yn y Ffreutur

Cydweithiwyd â Catering Direct i ehangu’r dewisiadau iach ac i wella cyfathrebu am yr hyn sy’n cael ei gynnig, gan leihau ciwio di‑angen.


Edrych Ymlaen

Mae gwaith y Senedd wedi arwain at welliannau gwirioneddol. Bydd y Senedd yn parhau i wrando ar ddisgyblion ac i ddatblygu’r ysgol er budd pawb.

A Successful Year for the School Senedd

The School Senedd has had a busy and successful year, ensuring pupil voice drives improvements across the school.



Pupil Voice

“Sedd a’r Senedd” sessions gathered pupil feedback, which shaped decisions. Noticeboards were refreshed as part of “You Asked… We Did”, and representatives shared updates with year groups.




Improving PSHE Days

Pupil feedback helped redesign PSHE days with greater focus on wellbeing and citizenship. Guest speakers, including the Welsh Parliament, inspired Years 11–13.



Ffynnon Rhydywaun Project

The project launched successfully, reducing single‑use plastic. After lower winter use, it reopened in summer as demand increased.



More time on the 3G and improving the school yard

Staffing rota changes extended lunchtime access to the 3G pitch. Yard markings will be repainted over the summer.


Investing in Sixth Form study spaces

A £500 YEPS grant is funding repainting, and IKEA are supporting plans for modern, comfortable study spaces.




Healthier food choices

Work with Catering Direct expanded healthy choices and improved communication about food availability, reducing unnecessary queuing.


Looking Ahead

The Senedd’s work has made a real difference.

Next year, it remains committed to listening to pupils and continuing to improve Rhydywaun for everyone.

Hamperi

Roedd ein raffl Hamperi Haf eleni yn llwyddiant mawr unwaith eto.

Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr i gyd!

Diolch o galon i Dîm Siop Siân am eu gwaith cydlynu arbennig.

Hampers

Our Summer Hamper raffle was once again a great success this year.

 Huge congratulations to all the winners!

A big thank you to the Siop Siân Team for their excellent work coordinating the raffle

Mabolgampau 2026

Roedd yr haul yn gwenu ar ddiwrnod prysur yn Stadiwm Ron Jones ar gyfer Mabolgampau eleni!

Roedd y nifer o gyfranogwyr yn uchel iawn, a’r gefnogaeth o amgylch y trac yn anhygoel gyda disgyblion yn dangos eu balchder trwy baentio’u hwynebau yn lliwiau’u llysoedd!

Llongyfarchiadau i Lys Taf a gipiodd y fuddugoliaeth eleni ond roedd pawb yn enillwyr mewn gwirionedd am eu hymdrech, eu hegni a’u brwdfrydedd.

Diolch o galon i’r holl athrawon a disgyblion a gyfrannodd at ddiwrnod arbennig – ac yn arbennig unwaith eto i Thomas B o Flwyddyn 10, ein ffotograffydd swyddogol, am gofnodi’r holl uchafbwyntiau drwy ei luniau gwych.

Sports Day 2026

We had an extremely sunny and very busy day down at Ron Jones Stadium for this year’s Sports Day! 

Participation levels were incredibly high, and the support around the track was amazing with pupils proudly painting their faces in their house colours!

Congratulations to Taf, who were victorious this year, but everyone were winners thanks to their effort, energy and enthusiasm.

Thank you to all the staff and pupils who contributed to such a special day – and a special shout-out again this year to Thomas B in Year 10, our official photographer, for capturing all the highlights through his brilliant photos!

Diwrnod ABCh a chodi arian tuag MND

Cafodd y disgyblion ddiwrnod ABCh hynod lwyddiannus, gyda chyfres o brofiadau amrywiol a gweithgareddau diddorol ar draws yr ysgol. Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar les, perthnasoedd, diogelwch ar-lein a datblygu sgiliau bywyd.

Yn ogystal â’r gweithgareddau ABCh, bu’r ysgol yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer elusen MND My Name’5 Doddie Foundation.

Diolch i gefnogaeth wych y disgyblion a’r staff, codwyd £475 drwy wisgo glas a melyn ac drwy gynnal raffl staff.

Yn ystod mis Medi eleni, bydd Miss Williams, y Brifathrawes a Mrs Jones, y Dirprwy Brifathrawes, yn rhedeg hanner marathon y Great North Run i godi arian ar gyfer yr elusen bwysig hon.

Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a gefnogodd y diwrnod. Roedd yn enghraifft wych o gymuned ysgol Rhydywaun yn dod at ei gilydd er budd eraill.

Linc noddi Miss Williams a Mrs Jones:

https://ajbellgreatnorthrun2026.enthuse.com/pf/lisa-williams-9c5fe

PSHE Day and Fundraising for MND

Pupils enjoyed a successful PSHE day, taking part in a range of engaging experiences across the school.

Sessions focused on wellbeing, relationships, online safety and developing life skills.

Alongside the PSHE activities, the school raised awareness and funds for the MND charity My Name’5 Doddie Foundation.

Thanks to the fantastic support of pupils and staff, £475 was raised through wearing blue and yellow and through a staff raffle.

In September this year, Miss Williams, Headteacher, and Mrs Jones, Deputy Headteacher, will be running the Great North Run half marathon to raise money for this important charity.

A huge thank you to everyone who contributed and supported the day. It was a wonderful example of the Rhydywaun school community coming together for the benefit of others.

Sponsorship link for Miss Williams and Mrs Jones:   https://ajbellgreatnorthrun2026.enthuse.com/pf/lisa-williams-9c5fe

Clwb Darllen Rhydywaun

Treuliodd aelodau’r Clwb Darllen ddiwrnod poeth ond cofiadwy yng Ngŵyl y Gelli. Mynychodd y disgyblion sesiynau hynod ddiddorol gan yr awduron Yassmin Abdel-Magied a Sarah Crossan. Cawsant gyfle i brynu amrywiaeth o lyfrau a chael rhai ohonynt wedi’u harwyddo gan yr awduron.

Rhydywaun's Reading Club

The Reading Club spent a hot but memorable day at the Hay Festival. Pupils attended fascinating sessions led by authors Yassmin Abdel-Magied and Sarah Crossan. They also took the opportunity to buy a variety of books, with some signed by the authors.

Prosiect Cymunedol Blwyddyn 12 – Ysgol Gymraeg Abercynon

Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr Celf a Thecstiliau Blwyddyn 12, sydd wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn gweithio’n ddiwyd ar brosiect cymunedol arbennig mewn cydweithrediad ag Ysgol Gymraeg Abercynon. Gan ddangos creadigrwydd eithriadol, ymroddiad a gwaith caled, dyluniodd a chreodd y myfyrwyr fural trawiadol i drawsnewid cynhwysydd metel ar iard yr ysgol.

Mae’r gwaith celf gorffenedig wedi bywiogi’r gofod yn llwyr, gan ddod â hwb lliwgar o lawenydd i’r amgylchedd awyr agored. Llongyfarchiadau mawr i’n myfyrwyr talentog ym Mlwyddyn 12 am eu hymdrechion rhagorol, eu gwaith tîm ac am fod yn llysgenhadon gwych i’n hysgol o fewn y gymuned leol.

Year 12 Community Project – Ysgol Gymraeg Abercynon

We are very proud of our Year 12 Art and Textiles students, who have spent the last few months working diligently on a wonderful community project in collaboration with Ysgol Gymraeg Abercynon. Demonstrating exceptional creativity, dedication, and hard work, the students designed and created a striking mural to transform a metal container on the school yard.

The finished artwork has completely brightened up the space, bringing a vibrant burst of colour and joy to the outdoor environment. We extend our warmest congratulations to our talented Year 12 students for their outstanding efforts, teamwork, and for being such fantastic ambassadors for our school within the local community.


Pontio Blwyddyn 6 – Blas ar Wersi

Ym mis Mehefin, croesawyd disgyblion Blwyddyn 6 i Rhydywaun ar gyfer eu diwrnod Pontio, lle cawsant sesiwn ‘blas ar wersi’ gydag adrannau’r Celfyddydau Mynegiannol. Yn y sesiwn Gelf, bu’r disgyblion yn archwilio darlunio haniaethol drwy ddefnyddio cerrig mân i greu llinellau a siapiau haniaethol, cyn eu llenwi gan ddefnyddio egwyddorion yr ysgol a phatrymau zentangle.

Bu’r disgyblion yn ymgysylltu’n dda â’r tasgau ac yn dangos canolbwyntio ardderchog drwy gydol y sesiwn. Edrychwn ymlaen at eu croesawu’n swyddogol ym mis Medi ac at weld eu sgiliau artistig yn parhau i ffynnu.

Year 6 Transition

In June, we welcomed Year 6 pupils to Rhydywaun for their Transition day, where they participated in a ‘blas ar wersi’ session with the Creative Arts department. In Art, pupils explored abstract drawing by using pebbles to create abstract lines and shapes, which they then filled using our school principles and zentangle patterns.

The pupils engaged well with the tasks and demonstrated excellent focus throughout the session. We look forward to welcoming them officially in September and seeing their artistic skills continue to flourish.

Fforwm Iaith – Jambori Cwm Cynon

Cafodd criw o’r Fforwm Iaith y cyfle i fynychu Jambori Cwm Cynon yn y Colesium, Aberdâr, ar y 26ain o Fehefin. Treulion nhw’r bore yng nghwmni Martyn Geraint a nifer o ddisgyblion cynradd lleol.

Yn ystod y perfformiad, bu Francesca, Nia, Lleu ac Ioan yn cynorthwyo ac yn annog y plant iau i ddawnsio a mwynhau’r profiad. Diolch iddynt am eu holl waith ac am fod yn fodelau rôl arbennig i’r disgyblion hyn. Roeddech yn wych!

Diolch yn fawr i Fenter Iaith a Martyn Geraint am y profiad gwerthfawr.

Fforwm Iaith – Cwm Cynon Jambori

Some Year 9 pupils from the Fforwm Iaith had the opportunity to attend the Cwm Cynon Jambori at the Collesium, Aberdare, on the 26th of June. They spent the morning in the company of Martyn Geraint and a number of local primary pupils.

During the performance, Francesca, Nia, Lleu and Ioan supported and encouraged the younger pupils to dance and take part. Thank you for all your hard work and for being such excellent role models to these pupils. You were fantastic!

Many thanks to Menter Iaith and Martyn Geraint for the experience.

Pob hwyl i Mr Davies!

Llongyfarchiadau mawr i Mr Ceri Davies, sydd wedi cael ei ddewis fel rhan o garfan Dynion 40au Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Rygbi Cyffwrdd Ewrop 2026 yn Vichy, Ffrainc, ym mis Gorffennaf. Er nad yw Mr Davies yn edrych yn ddigon hen i fod yn rhan o’r garfan hon, rydym yn hynod falch ohono ac yn dymuno pob lwc iddo yn y gystadleuaeth!

All the best Mr Davies!

A huge congratulations to Mr Ceri Davies, who has been selected as part of the Wales Men’s Over-40s squad for the 2026 European Touch Championships in Vichy, France, this July. Although Mr Davies doesn’t look quite old enough to be part of this squad, we are extremely proud of him and wish him the very best in the competition!

Llongyfarchiadau i Mrs Teri Knight!

Llongyfarchiadau enfawr i Mrs Teri Knight, sydd wedi’i phenodi yn Gadeirydd Clwb Rygbi Ffynnon Taf. Dyma'r tro cyntaf mewn 139 mlynedd o hanes y clwb i fenyw gael ei phenodi i’r rôl hon.

Pob hwyl, Mrs Knight!

Congratulations to Mrs Teri Knight!

Huge congratulations to Mrs Teri Knight, who has been appointed Chairperson of Taffs Well Rugby Club. The first woman in the club’s 139-year history to be appointed to this role.

Best of luck, Mrs Knight!


La Copa Mundial 2026

Yn eu gwersi Sbaeneg, mae disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 wedi bod yn ymchwilio i wybodaeth am wlad sydd wedi cyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed eleni. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, maent wedi bod yn gweithio i greu posteri ffeithiau am y wlad, y tîm, a’u siwrnai yn y gystadleuaeth eleni ac yn hanesyddol.

La Copa Mundial 2026

In their Spanish lessons, Year 7 and 8 pupils have been researching a country that has reached this year’s Football World Cup. Using this information, they have been working together to create posters about the country, the team, and their journey in this year’s tournament as well as historically.


Llongyfarchiadau Ffion!

Ym mis Mehefin, roeddwn i’n ffodus iawn i gael cynrychioli Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Trawsblaniad Ewrop. Gemau yw’r rhain lle mae cleifion trawsblaniad, cleifion dialysis, rhoddwyr byw a theuluoedd rhoddwyr yn dod at ei gilydd i gystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Roeddwn i’n rhan o dîm nofio Prydain Fawr, lle cystadlais mewn pum ras unigol a llwyddo i ennill pum medal aur yn ogystal â chyrraedd pedwar PB. Cefais fy newis hefyd i gystadlu fel rhan o dîm ras gyfnewid Prydain Fawr, lle enillon ni ddwy fedal aur!

Roedd yn fraint enfawr cymryd rhan yn y gemau hyn ochr yn ochr â’r holl gleifion trawsblaniad eraill, a chlywed eu straeon ysbrydoledig.

Ffion H Blwyddyn 10

Congratulations Ffion!

In June, I was very fortunate to represent Team Great Britain at the European Transplant Games. These are games where transplant patients, dialysis patients, living donors and donor families come together to compete in a variety of sports.

I was part of the Great Britain swimming team, where I competed in five individual races and won five gold medals, as well as achieving four personal bests. I was also selected to compete as part of the Great Britain relay team, where we won two gold medals!

It was a huge privilege to take part in these games alongside all the other transplant patients and to hear their inspiring stories.


Ffion H Year 10

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Llongyfarchiadau i Thomas W, Blwyddyn 8, ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Ynys Môn Llongyfarchiadau enfawr!

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Huge congratulations to Thomas W, Year 8, who came third in the harp competition at the Ynys Môn Eisteddfod.

A fantastic achievement!

Cronfa Aberfan

Diolch yn fawr i Anne England ac Auriol Lynch ddaeth i'r ysgol i gyflwyno siec hael i'r ysgol ar rhan Cronfa Aberfan.

Byddwn yn eich diweddaru gyda'r hyn byddwn ym gwario'r arian yn y flwyddyn nesaf, fydd yn cynnwys gwella ardaloedd gwaith y Chweched Dosbarth.

Cronfa Aberfan

A big thank you to Anne England and Auriol Lynch, who came to the school to present a generous cheque on behalf of the Aberfan Fund.

We will update you on how the money will be spent next year, including improvements to the Sixth Form study areas.

Grŵp Gofalwyr Ifanc

Mae  Grŵp Gofalwyr Ifanc Ysgol Gyfun Rhydywaun wedi cael ei gydnabod am ei ymroddiad arbennig i gefnogi gofalwyr ifanc, gan ennill y Wobr Efydd am y ddarpariaeth ragorol a gynigir. O dan arweiniad Mr Trow a Mrs Williams‑Thomas, mae’r grŵp yn dod â thua pymtheg o ddisgyblion o Flwyddyn 7–13 at ei gilydd, sy’n rhannu profiad byw o gydbwyso bywyd ysgol â chyfrifoldebau gofalu gartref.

Maent yn cynnig cefnogaeth ddyddiol i’w gilydd, gan drafod yr heriau y gall gofalwyr ifanc eu deall yn unig, sef pryder, pwysau, amgylchiadau anodd gartref, a chyfnodau o iselder, yn ogystal â dathlu llwyddiannau a phrofiadau cadarnhaol.

Mae’r sesiynau wedi cynnwys gwaith gydag asiantaethau allanol, gan archwilio pynciau fel hunan‑amddiffyn, pryder ac iselder. Y tu hwnt i’r cyfarfodydd ffurfiol, mae’r grŵp yn cynnal rhwydwaith cefnogol, gan sicrhau nad yw unrhyw aelod yn teimlo ar ei ben ei hun y tu allan i oriau ysgol.

Mae’r grŵp hefyd wedi gweithio’n galed i ariannu profiadau cyfoethog, gan godi arian drwy ffairiau Nadolig a chefnogaeth gan y gymuned leol. Mae’r arian hwn wedi galluogi teithiau a gweithgareddau cofiadwy fel prydau bwyd, bowlio a 'gorge walking'. Cyfleoedd sy’n eu hannog i gamu y tu hwnt i’w parth cysur ac i fwynhau bod yn blant.

Mae’r grŵp amrywiol hwn o bobl ifanc, pob un yn wynebu ei heriau ei hun, wedi tyfu’n gymuned agos a gwydn. Mae eu tosturi, eu cryfder a’u hymrwymiad i’w gilydd yn eu gwneud yn gredyd i’r ysgol, ac mae wedi bod yn fraint eu gweld yn datblygu’n bobl ifanc hyderus.

Young Carers Group

The Young Carers Group at Ysgol Gyfun Rhydywaun has been recognised for its outstanding commitment to supporting young carers, achieving the Bronze Award for the excellent provision it offers. Led by Mr Trow and Mrs Williams‑Thomas, the group brings together around fifteen pupils from Years 7–13 who share a lived understanding of what it means to balance school life with caring responsibilities at home.

They provide daily support to one another, openly discussing the challenges that only young carers truly understand such as anxiety, pressure, difficult home circumstances, and moments of low mood , while also celebrating successes and positive experiences.

Their sessions have included work with external agencies, exploring topics such as self‑defence, anxiety, and depression. Beyond the formal meetings, the group maintains a supportive network, ensuring that no member feels alone outside school hours.

The group has also worked hard to fund enriching experiences, raising money through Christmas fayres and local community support. These funds have enabled memorable trips and activities including meals out, bowling, and gorge walking. Opportunities that encourage them to step outside their comfort zones and simply enjoy being children.

This diverse group of young people, each facing their own challenges, has grown into a close‑knit, resilient community. Their compassion, strength, and commitment to one another make them a credit to the school, and it has been a privilege to watch them develop into confident, capable young people.

Prosiect YEPS Gampfa CF44

Cymerodd disgyblion ran yn brosiect YEPS yng ngampfa CF44, gan fwynhau cyfres o sesiynau iechyd a ffitrwydd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys Cymorth Cyntaf, bwyta’n iach, sesiwn HYROX, codi pwysau, profi cryfder, a sesiynau jiu‑jitsu.

Dangosodd y disgyblion ymddygiad rhagorol, gwydnwch, ac agwedd bositif tuag at ddysgu a rhoi cynnig ar brofiadau newydd. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol, gyda staff CF44 yn nodi mai nhw oedd y grŵp gorau o ran ymddygiad a chymryd rhan. Dywedodd un swyddog YEPS: “I had the pleasure of accompanying the group… they have been the best group we have worked with thus far from all the local schools.”

Mae Lauren o YEPS hefyd yn bwriadu eu henwebu am wobr am eu hymddygiad a’u hymrwymiad.

Da iawn iddyn nhw i gyd!

YEPS CF44 Gym Project

Pupils took part in the YEPS CF44 project, enjoying a range of health and fitness sessions. Activities included First Aid, healthy eating, a HYROX session, weight‑lifting, strength testing, and jiu‑jitsu.

The pupils showed excellent behaviour, resilience, and a positive attitude towards learning and trying new experiences. Feedback was extremely positive, with CF44 staff stating they were the best group they had worked with in terms of behaviour and participation. One YEPS officer commented: “I had the pleasure of accompanying the group… they have been the best group we have worked with thus far from all the local schools.”

Lauren from YEPS also plans to nominate them for an award in recognition of their behaviour and engagement.

Well done to them all!

Taith i Brifysgol Rhydychen

Gallwn ni i gyd gytuno ein bod wedi mwynhau profiad arbennig yn Rhydychen. Cawsom amser gwych yn cerdded o amgylch ac yn archwilio dau goleg: Coleg St Catherine’s a Choleg St Hilda’s. Dysgon ni lawer yn ystod ein gwers Gwyddorau Dynol, ac yna mwynhau cinio yn neuadd fwyta Coleg St Catherine’s.

Roedd y daith yn brofiad hynod ddiddorol ac addysgol, ac mae wedi rhoi gwell syniad i ni ynghylch a hoffem fynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen yn y dyfodol.

Criw Blwyddyn 10

Trip to Oxford University

We can all agree that we thoroughly enjoyed our fantastic experience in Oxford. We had a wonderful time walking around and exploring two colleges: St Catherine’s College and St Hilda’s College. We learned a great deal during our Human Sciences lesson, and then enjoyed lunch in the dining hall at St Catherine’s College.

The trip was a highly interesting and educational experience, and it has given us a clearer idea of whether we would like to go on to study at Oxford University in the future.

Year 10 pupils


Merched mewn STEM

Llongyfarchiadau i’r merched am ennill y wobr “Ymdrech Arbennig” yn y Ffair Wyddoniaeth eleni. Roedd eu poster yn esbonio sut mae cylched bywyd sêr yn cynhyrchu elfennau newydd, ac roedd yn haeddiannol iawn o’r wobr.

Mwynhaodd pawb gynhyrchu ‘squishies’ yn y lab fel dathliad o ddiwedd y tymor a blwyddyn wych o’r Clwb STEM!

Girls in STEM

Congratulations to the girls for winning the “Special Effort” award at this year’s Science Fair. Their poster, which explained how the life cycle of stars produces new elements, was very deserving of the award.

Everyone enjoyed making ‘squishies’ in the lab as a celebration of the end of term and a fantastic year of the STEM Club!


Taith Blwyddyn 9 a 10 – Maths Inspiration

Aeth criw o Flwyddyn 9 a 10 i’r Sioe 'Maths Inspiration' yng Nghaerdydd a mwynhau cyfle arbennig i ddysgu am fathemateg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Roedd y sioe yn cyfuno Mathemateg â hud, gan roi persbectif ffres a chyffrous i’r disgyblion ar y pwnc.


Clwb Mathemateg

Yn yr ysgol, mae Clwb Mathemateg wedi bod yn brysur yn creu ciwbiau Columbus, gan gyfuno Mathemateg ac origami mewn gweithgaredd sy’n datblygu sgiliau meddwl a datrys problemau.

Year 9 and 10 Trip – Maths Inspiration

A group of Year 9 and 10 pupils travelled to Cardiff for the Maths Inspiration Show, enjoying a fantastic opportunity to learn about Mathematics beyond the classroom. The show blended maths with magic, giving pupils a fresh and exciting perspective on the subject.


Maths Club

Back at school, the Maths Club has been busy creating Columbus cubes, combining Mathematics and origami in an activity that develops thinking skills and problem‑solving.

Ffair Wyddoniaeth Blwyddyn 7

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn Ffair Wyddoniaeth Blwyddyn 7 eleni! Roedd yn bleser gweld y disgyblion yn arddangos eu prosiectau unigryw ac arloesol fel rhan o’u prosiect ddiwedd blwyddyn; roedd safon y gwaith a’r brwdfrydedd yn Neuadd Guto Nyth Brân yn ysbrydoledig iawn.

Diolch enfawr i Dr Aled Bryant o Brifysgol De Cymru (USW) am ymuno â ni unwaith eto fel gwestai arbennig ac yn feirniad gwadd. Gyda chefnogaeth hael Ffrindiau Rhydywaun, llwyddodd y timau buddugol i ennill tystysgrifau a thalebau Amazon am eu hymdrechion eithriadol.

Ymhlith y prosiectau buddugol eleni roedd ymchwil i effeithiau oedran ar y cof, prosiect yn mesur sut mae cynyddu graddiant ramp yn effeithio ar gyflymder car, ac ymchwiliad difyr i ba gynefinoedd sydd fwyaf addas i foch coed.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad llwyddiannus hwn.

Rydym eisoes yn edrych ymlaen at Ffair Wyddoniaeth y flwyddyn nesaf!

Year 7 Science Fair

A huge congratulations to everyone who took part in this year’s Year 7 Science Fair! It was a pleasure to see pupils showcasing their unique and innovative projects as part of their end‑of‑year work; the standard and enthusiasm in Neuadd Guto Nyth Brân were truly inspiring.

A big thank you to Dr Aled Bryant from the University of South Wales (USW) for joining us once again as our special guest and guest judge. Thanks to the generous support of Ffrindiau Rhydywaun, the winning teams were able to take home certificates and Amazon vouchers for their outstanding efforts.

Winning projects this year included research into the effects of age on memory, an investigation measuring how increasing the gradient of a ramp affects car speed, and a fascinating study into which habitats are most suitable for woodlice.

Huge congratulations to everyone involved in this successful event.

We are already looking forward to next year’s Science Fair!

Her Gwyddorau Cymru

Am brofiad anhygoel! Wrth gynrychioli Rhydywaun yn Her Gwyddorau 2026, cawsom ein herio’n wirioneddol i ddefnyddio ein sgiliau datrys problemau, ein gwybodaeth wyddonol, a’n gallu i gydweithio fel tîm.

Yn y rownd gyntaf, llwyddodd tîm pH 6/7 i ddatrys rhai o’r problemau mwyaf heriol rydym erioed wedi’u hwynebu, gan sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf.

Yn y rownd honno, curon ni Ysgol Llanhari 48–38, cyn wynebu ein her fwyaf yn y rownd gynderfynol. Roedd yr ornest yn hynod o agos, ond dyfalbarhaodd y tîm ac enillodd o ddim ond dau bwynt yn erbyn Ysgol Penweddig.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y rownd derfynol ym mis Medi!

Ted, Oliver, Phoebe, Ffion, Faith ac Eleanor

Science Challenge Wales

What an incredible experience! Representing Rhydywaun in the 2026 Science Challenge, we were truly pushed to use our problem‑solving skills, scientific knowledge, and teamwork.

In the first round, team pH 6/7 solved some of the toughest problems we’ve ever faced, earning a place in the quarter‑finals.

There, we defeated Ysgol Llanhari 48–38, before facing our biggest challenge yet in the semi‑final. It was an extremely close contest, but the team persevered and won by just two points against Ysgol Penweddig.

We’re really looking forward to the final in September!

Ted, Oliver, Phoebe, Ffion, Faith and Eleanor


Cystadleuaeth Gerddi Kew

Llongyfarchiadau mawr i Griff G o Flwyddyn 7, sydd wedi cyflawni camp nodedig yng Nghystadleuaeth Ysgolion Gerddi Kew eleni! Tasg y gystadleuaeth oedd dylunio gwisg ac offeryn ar gyfer unrhyw rôl o fewn Gerddi Kew, a phenderfynodd Griff greu gwisg drawiadol ar gyfer Artist Botaneg.

Er na chafodd y brif wobr, cafodd ei waith ei ganmol yn fawr ac fe’i dyfarnwyd ail safle yn y gystadleuaeth gyfan. Fel cydnabyddiaeth o’i lwyddiant eithriadol, bydd ei ddyluniadau creadigol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Gerddi Kew dros yr wythnosau nesaf.

Cyflawniad arbennig iawn — da iawn ti, Griff!

Kew Gardens Competition

A huge congratulations to Griff G in Year 7, who has achieved a remarkable accomplishment in this year’s Kew Gardens Schools Competition! The task was to design a uniform and tool for any role within Kew Gardens, and Griff chose to create a striking outfit for a Botanical Artist.

Although he didn’t win the top prize, his work was highly praised and he was awarded second place in the entire competition. As recognition of his outstanding achievement, Griff’s creative designs will be published on the Kew Gardens website over the coming weeks.

An excellent achievement — well done, Griff!

Sioe Wyddoniaeth Pontio Blwyddyn 5

Hoffem ddiolch yn fawr i ddisgyblion Blwyddyn 5 o’n hysgolion clwstwr am gymryd rhan mor frwd yn y Sioe Wyddoniaeth fel rhan o’u diwrnod pontio i Ysgol Gyfun Rhydywaun. Roedd y disgyblion yn hynod astud ac ymgysylltiol, yn gwrtais iawn, ac atebwyd y cwestiynau yn ardderchog drwy gydol y sioe.

Mae’n amlwg bod gennym genhedlaeth addawol o wyddonwyr ar y gweill, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at eu croesawu ym mis Medi 2027!

Year 5 Transition Science Show

We would like to extend a big thank you to the Year 5 pupils from our cluster schools for taking part so enthusiastically in the Science Show as part of their transition day to Ysgol Gyfun Rhydywaun. The pupils were highly attentive and engaged, extremely polite, and answered questions brilliantly throughout the show.

It is clear that we have a very promising generation of young scientists coming in, and we are already looking forward to welcoming them in September 2027!


Dug Caeredin

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae disgyblion

Bl10-13 wedi bod yn ymgymryd â’r her Gwobr Dug Caeredin, lefel Efydd ac Arian.

Mae pob disgybl yn canolbwyntio ei amser

ar nifer o weithgareddau fel gwirfoddoli,

gweithio i wella ffitrwydd a dysgu sgil newydd

er mwyn ennill eu tystysgrifau.

Da iawn chi!

Duke of Edinburgh Award

Over the past year, pupils in Years 10–13 have been working towards the Duke of Edinburgh Award at Bronze and Silver level. Each pupil has committed their time to activities such as volunteering, improving fitness and learning a new skill in order to achieve their certificates.

Well done!

Taith Bêldroed i Wylio Cymru curo Gweriniaeth Tsiec

Cafodd y disgyblion noson arbennig iawn wrth deithio i wylio Cymru yn curo Gweriniaeth Tsiec. Roedd yr awyrgylch yn drydanol, gyda’r disgyblion yn mwynhau profiad byw o gefnogi’r tîm cenedlaethol. Roedd yn gyfle gwych i greu atgofion ac i brofi cyffro gêm ryngwladol.

Football Trip to Watch Wales Defeat the Czech Republic

Pupils had a fantastic day travelling to watch Wales defeat the Czech Republic. The atmosphere was electric, and they loved experiencing the excitement of supporting the national team live. It was a brilliant opportunity to make memories and enjoy an international match.

Diolch Penaluna's!

Diolch enfawr i Siop Sglodion Penaluna yn Hirwaun am fwydo disgyblion Blwyddyn 13 ar eu diwrnod olaf! Roedd y trît yn flasus ac yn dod â diwedd perffaith i’w hamser yn Rhydywaun.


A huge thank you to Penaluna’s Fish & Chips in Hirwaun for treating our Year 13 pupils on their final day! It was absolutely delicious and the perfect way to mark the end of their time at Rhydywaun.



Da iawn Gwen!

Llongyfarchiadau i Gwen R am arwyddo i Dîm Pel-droed Dinas Caerdydd ar ôl treialon yr wythnos ddiwethaf.

Mae hwn yn gyflawniad rhagorol!

Da iawn ti, Gwen!


Congratulations to Gwen R on signing for Cardiff City Football Club after completing trials last week.

This is an outstanding achievement.

Well done, Gwen!

Taith Blwyddyn 12 i Wimbledon

Cafodd disgyblion Blwyddyn 12 amser gwych ar eu taith i Wimbledon, gan fwynhau’r profiad unigryw o wylio tenis o’r radd flaenaf. Roedd yr awyrgylch yn wych, a chafodd pawb ddiwrnod cofiadwy yn gweld chwaraewyr elitaidd ar y cwrt.

Year 12 Trip to Wimbledon

Year 12 pupils had a fantastic time on their trip to Wimbledon, enjoying the unique experience of watching world‑class tennis. The atmosphere was brilliant, and everyone had a memorable day seeing elite players compete on court.


Athletwyr Rhydywaun – Tymor Arbennig!

Da iawn i holl athletwyr talentog Rhydywaun sydd wedi bod yn brysur iawn y tymor hwn. Ymhlith yr holl gystadlu, mae Eva R wedi torri record ysgol y 300m, ac mae nifer o lwyddiannau rhagorol wedi dod wrth gynrychioli Cymoedd Morgannwg ym Mhencampwriaeth Ysgolion Cymru.

Ted L – 300m Clwydi Efydd + Naid Driphlyg dan 16 Arian

Ellis C – Naid Driphlyg dan 18 Efydd + Aur yn y ras gyfnewid dan 18Betty L – 800m Efydd

Rachael H‑J – Gwaywffon Arian + 4ydd yn y Clwydi

Curtis‑Jax – Arian yn y ras gyfnewid dan 14

Ella a Mia Grace – 5ed yn y ras gyfnewid

Charlie – 7fed yn y Ddisgen

Gwaith gwych gan bawb!

Llongyfarchiadau mawr!

Rhydywaun Athletes – A great season!

Well done to all of Rhydywaun’s talented athletes who have been incredibly busy this season.

Among all the competitions, Eva R has broken the school 300m record, and there have been many excellent achievements while representing Glamorgan Valleys at the Welsh Schools Championships.

Ted L – 300m Hurdles Bronze + U16 Triple Jump Silver

Ellis C – U18 Triple Jump Bronze + Gold in the U18 relay

Betty L – 800m Bronze

Rachael H‑J – Javelin Silver + 4th in Hurdles

Curtis‑Jax – Silver in the U14 relay

Ella and Mia Grace – 5th in the relay

Charlie – 7th in Discus

Fantastic achievements from everyone.

Huge congratulations!



CEFNOGAETH ARIANNOL / FINANCIAL SUPPORT


PRESENOLDEB  / ATTENDANCE


DIOGELU  / SAFEGUARDING


 
 
 

Comments


Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, 
Lawrence Avenue, Penywaun, Rhondda Cynon Taf, CF44 9ES
01685 813500

© 2025 Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun

bottom of page