Cylchlythyr Hydref 2026 / October 2026 Newsletter


Pwt y Pennaeth
Wrth i ni agosáu at y gwyliau hanner tymor cyntaf, hoffwn ddiolch i’n holl ddisgyblion a staff am eu gwaith caled dros yr 8 wythnos ddiwethaf. Mae wedi bod yn hynod o brysur gyda disgyblion a staff yn ymgartrefu yn ôl i normau ac arferion bywyd ysgol, yn dilyn yr haf.
Rydym yn hapus iawn gyda pha mor dda mae ein disgyblion Blwyddyn 7 wedi dechrau yn Rhydywaun; maen nhw i gyd yn gweithio’n galed iawn, yn darllen yn frwdfrydig (Cynllun Dim Ond Darllen) ac maen nhw i gyd yn hyrwyddwyr rhagorol i’n gwerthoedd ni a Ffordd Rhydywaun.
Roedd Noson Agored gyntaf y flwyddyn, yn hynod gadarnhaol ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o rieni a gofalwyr i’r ysgol dros y misoedd nesaf.
Fel y gwyddoch, mae disgyblion wedi bod yn pleidleisio yn ddiweddar dros gynrychiolwyr ar y Senedd Ysgol. Edrychwn ymlaen at waith da'r bobl ifanc ar y Senedd, dan arweiniad ein Prif Swyddogion, yn ystod y flwyddyn.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau gwyliau hanner tymor.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus.
Miss Lisa Williams
Headteacher’s Thoughts
As we approach our first half term holiday, I’d like to thank all our pupils and staff for their hard work over the last eight weeks. It has been extremely busy with pupils and staff settling back into the norms and routines of school life, following the summer break.
We couldn’t be more pleased with how well our Year 7 pupils have started at Rhydywaun; they are all working incredibly hard, reading enthusiastically (Cynllun Dim Ond Darllen) and they are all excellent advocates of our values; Ffordd Rhydywaun.
Our first Open Evening of the year, were hugely positive and we look forward to welcoming more parents and carers into school over the coming months.
As you may be aware, pupils have been voting for representatives on the Senedd Ysgol.
We look forward to the good work of the young people on the Senedd, led by our 6th Form Prif Swyddogion, over the course of the year.
I hope you enjoy the half term holiday.
Diolch yn fawr for your continued support.
Miss Lisa Williams
Cofio Trychineb Aberfan
Daeth holl deulu Rhydywaun ynghyd ar iard yr ysgol i gofio Trychineb Aberfan a’r 144 o bobl a gollodd eu bywydau. Roedd yn achlysur arbennig ac emosiynol iawn, a rhaid canmol ein disgyblion am eu haeddfedrwydd a’r parch a ddangoswyd ganddynt drwy gydol y seremoni.
Diolch yn fawr i Aled John am ddod i ffilmio’r achlysur pwysig hwn.
Remembering the Aberfan Disaster
The whole Rhydywaun family came together in the school yard to remember the Aberfan Disaster and the 144 people who lost their lives. It was a very special and emotional occasion, and our pupils must be commended for their maturity and the respect they showed throughout the ceremony.
A huge thank you to Aled John for coming along to film this important occasion.


Pob lwc, Miss Lowri Daniels!
Rydym yn dymuno diolch yn fawr i Miss Lowri Daniels a ffarwelio â hi wrth iddi ein gadael ar ddiwedd yr hanner tymor hwn i ddechrau pennod newydd yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
Diolch am bopeth, Miss Daniels, a phob dymuniad da ar gyfer y dyfodol!
We would like to say a huge thank you and a fond farewell to Miss Lowri Daniels, who will be leaving us at the end of this half-term to begin a new chapter at Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
Thank you for everything, Miss Daniels, and we wish you all the very best for the future!
Pob Lwc, Blwyddyn 11!
Pob hwyl i’n disgyblion Blwyddyn 11, a fydd yn sefyll arholiad Uned 1 TGAU Mathemateg a Rhifedd ddydd Mawrth cyntaf ar ôl r hanner tymor.
Cofiwch adolygu dros y gwyliau!
Mae adnoddau adolygu ar gael ar eich Google Classroom.
Pob lwc i chi gyd ac EWCH AMDANI!
Good Luck, Year 11!
Good luck to our Year 11 pupils, who will be sitting their GCSE Mathematics and Numeracy Unit 1 examination on the first Tuesday after the holidays.
Remember to revise over the holidays!
Revision resources are available on your Google Classroom.
Best of luck to you all – GO FOR IT!

Diwrnod Shwmae Su’mae
Cynhaliwyd diwrnod Shwmae Su’mae ar y 15fed o Hydref unwaith eto eleni. Dyma ddiwrnod i ddathlu Cymreictod o bob safon. Braf oedd gweld disgyblion a staff yn cymryd rhan mewn fideo Shwmae Su’mae!
Shwmae Su’mae Day was held once again this year on the 15th of October. This is a day to celebrate Welsh identity at every level. It was great to see pupils and staff taking part in a Shwmae Su’mae video!
Senedd Rhydywaun
Yn ystod y pythefnos diwethaf, rydym wedi cynnal hystings Senedd Rhydywaun ar gyfer pob blwyddyn ysgol. Unwaith eto, roedd safon y cyflwyniadau gan y disgyblion o flaen eu cyfoedion yn uchel iawn ac yn haeddu clod.
Llongyfarchiadau i bawb a roddodd eu henwau ymlaen i gynrychioli eu blwyddyn ar Senedd yr Ysgol.
Yn dilyn y bleidlais, mae dau aelod newydd o’r Senedd ym mhob blwyddyn bellach yn barod am flwyddyn arall o waith pwysig, gan sicrhau bod llais dysgwyr a myfyrwyr Rhydywaun yn cael ei glywed yn glir yn y penderfyniadau a wnawn am ein hysgol.
Pob lwc i’n haelodau newydd, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi enwau yn y cylchlythyr nesaf a gweld eu cyfraniad yn ystod y flwyddyn.
Senedd Rhydywaun
Over the past fortnight, we have held the Senedd Rhydywaun School hustings for each year group. Once again, the standard of the pupils’ presentations in front of their peers was extremely high and deserving of great praise.
Congratulations to everyone who put their name forward to represent their year group on the Senedd.
Following the vote, two new Senedd members from each year group are now ready for another year of important work, ensuring that the voices of Rhydywaun’s pupils and students are heard clearly in the decisions we make about our school.
We look forward to announcing the names of the Senedd in the next newsletter.
Alumni Rhydywaun
Yn ystod ein diwrnod ABCh, roedd yn fraint i groesawu cyn-fyfyrwyr yn ôl i’r ysgol i gynnal Ffair Alumni Rhydywaun.
Elwodd disgyblion Blwyddyn 10, Blwyddyn 11 a myfyrwyr yr Academi yn fawr ar y cyfle i siarad â chyn-fyfyrwyr am eu llwybrau nhw i’r Chweched Dosbarth a thu hwnt. Roedd yn gyfle gwerthfawr i’n pobl ifanc ddysgu mwy am yr amrywiaeth eang o lwybrau ac opsiynau sydd ar gael wrth iddynt ddechrau gwneud penderfyniadau am eu dyfodol.
Roedd yn hyfryd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd ac i’ch croesawu yn ôl i Ysgol Rhydywaun unwaith eto. Diolch o galon i bob un ohonoch am roi o’ch amser. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i’ch cael yn ôl yn yr ysgol ac i gael dathlu eich llwyddiannau gyda chi.
Un o'r cyn-fyfyrwyr oedd Gwyn Loader, Prif Ohebydd BBC Cymru, siaradodd am ei brofiadau a’i daith o fod yn fyfyriwr yma yn Rhydywaun i’w yrfa bresennol.
Roedd yn arbennig i’r disgyblion gael clywed gan gyn-fyfyriwr a oedd unwaith yn gwisgo’r un wisg ysgol, ac sydd bellach yn teithio’r byd yn adrodd ar rai o brif faterion cyfoes ein hoes.
Diolch yn fawr iawn i Gwyn am roi o’i amser i ddychwelyd i Rhydywaun, rhannu ei brofiadau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o’n disgyblion.
Alumni Rhydywaun
During our PSE day, it was a privilege to welcome former students back to the school for our Rhydywaun Alumni Fair.
Pupils in Years 10 and 11, together with students from the Academy, benefited greatly from the opportunity to speak to former students about their own pathways into sixth form and beyond. It was a valuable opportunity for our young people to learn more about the wide variety of pathways and options available to them as they begin making decisions about their futures.
It was wonderful to see so many familiar faces and to welcome you back to Rhydywaun once again. A heartfelt thank you to each and every one of you for giving up your time. It was a very special day to have you back in school and to celebrate your successes with you.
One of the past pupils was Gwyn Loader, Chief Correspondent for BBC Cymru, who spoke about his experiences and his journey from being a student at Rhydywaun to his present career.
It was particularly special for our pupils to hear from a former student who once wore the same school uniform as they do and who now travels the world reporting on some of the major contemporary issues of our time.
A huge thank you to Gwyn for giving his time to return to Rhydywaun, share his experiences and inspire the next generation of our pupils.
Ymgais i dorri Record y Byd drwy ddarllen!
Bu digwyddiad darllen Blwyddyn 7 yn llwyddiant ysgubol wrth i'r holl ddisgyblion gymryd rhan mewn ymgais i dorri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl yn darllen ar yr un pryd ledled y byd. Daeth nifer fawr o'r disgyblion â'u llyfrau eu hunain i'r ysgol ac roedd yn braf gweld cymaint o frwdfrydedd tuag at ddarllen. Yn ystod y digwyddiad, cafodd y disgyblion gyfle hefyd i wrando ar gyflwyniadau difyr gan awduron enwog, a oedd yn ysbrydoliaeth iddynt ac yn annog mwy o ddiddordeb mewn llyfrau a llenyddiaeth. Roedd y diwrnod yn brofiad gwerthfawr a chofiadwy i bawb a gymerodd ran.
A Record-Breaking Reading Experience!
The Year 7 reading event was a great success, with all pupils taking part in an attempt to break the Guinness World Record for the largest number of students reading at the same time around the world. Many pupils brought in their own books, demonstrating their enthusiasm and love of reading. As part of the event, students also had the opportunity to watch presentations from several well-known authors, who shared their experiences and inspired pupils to develop a greater interest in books and literature. The event was an enjoyable and memorable experience for everyone involved and highlighted the importance of reading for pleasure.
Diwrnod Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Rhan annatod o Gwricwlwm Rhydywaun i bob disgybl yw ein gwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd a phrofiadau addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ogystal ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Fel rhan o’r cyfleoedd a phrofiadau hyn i gyfoethogi’r gwaith ar lawr dosbarth, roedd y diwrnod ABCh diweddar gydag amrywiaeth o weithgareddau. Cafodd disgyblion gyfle i gwrdd ac i holi nifer o’n cyn-ddisgyblion yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau gwerthfawr a gyflwynwyd gan sefydliadau megis yr Heddlu, Barod, Big Idea Wales, National Grid, parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a WSP. Cafodd disgyblion Blwyddyn 9 hefyd gyfle i ddangos eu ffitrwydd a'u gwydnwch yn fersiwn Rhydywaun ei hun o Hyrox, sef "Rhydrox"!
Roedd rhain yn ddiwrnodau llawn a rhaid diolch yn fawr iawn i’r holl staff, ein hymwelwyr a’r disgyblion am eu hymrwymiad ac arweiniad gwych ar y dydd.
Personal and Social Education Day
An integral part of the Rhydywaun Curriculum for every student is our Personal and Social Education (PSE) programme. This includes opportunities and experiences in Religious, Values and Ethics (RVE) education, as well as Relationships and Sexuality Education (RSE).
As part of these opportunities and experiences, designed to enrich learning beyond the classroom, our recent PSE Day featured a wide variety of activities. Students had the chance to meet and question several former Rhydywaun pupils, as well as take part in worthwhile sessions delivered by organisations such as the Police, Barod, Big Idea Wales, National Grid, the Welsh Ambulance Service paramedics, and WSP. Year 9 pupils also had the opportunity to demonstrate their fitness and resilience in Rhydywaun’s very own version of Hyrox, Rhydrox!
It was a busy and rewarding day, and we would like to extend our sincere thanks to all staff, visitors, and students for their commitment, enthusiasm, and excellent leadership throughout the day.
Academi Rhydywaun
Uchafbwyntiau’r Hanner Tymor Cyntaf
Mae wedi bod yn ddechrau prysur a chyffrous iawn i’r flwyddyn academaidd yn Academi Rhydywaun, gyda’n myfyrwyr yn y Chweched Dosbarth yn manteisio ar ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, cynllunio ar gyfer y dyfodol a mwynhau eu profiad ysgol.
Croeso i Flwyddyn 12
Dechreuodd Blwyddyn 12 y flwyddyn gyda diwrnod anwytho arbennig, dan arweiniad cynrychiolwyr o Brifysgol De Cymru. Cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm, yn ogystal â gwrando ar gyflwyniadau gwerthfawr ar sgiliau astudio, bywyd prifysgol a rheoli pwysau gwaith.
Cafodd Blwyddyn 12 hefyd wythnos o wersi blasu, gan roi cyfle i bob myfyriwr brofi amrywiaeth o bynciau cyn gwneud eu dewisiadau terfynol. Roedd hyn yn ffordd wych o helpu’r myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hastudiaethau.
Blas ar fywyd Prifysgol
Cafodd Blwyddyn 12 gyfle i ymweld â Phrifysgol Abertawe ar gyfer diwrnod blasu bywyd prifysgol. Roedd y diwrnod yn llawn cyfleoedd i ddysgu mwy am astudio ar lefel uwch, gyda darlithoedd mewn meysydd megis y gyfraith, ieithoedd modern, daearyddiaeth, hanes, biofeddygaeth a nyrsio.
Cafwyd cyfleoedd pellach i edrych tuag at y dyfodol yn ystod diwrnod ABCh llwyddiannus iawn. Manteisiodd Blwyddyn 12 ar gyflwyniadau gan Brifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar geisiadau prifysgol a’r camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol.
Paratoi ar gyfer y byd gwaith
Cafodd Blwyddyn 13 ddiwrnod gwerthfawr gyda Gyrfa Cymru, gan ganolbwyntio ar eu hopsiynau ar ôl gadael yr ysgol. Trafodwyd prentisiaethau, ysgrifennu CV effeithiol a sut i baratoi’n hyderus ar gyfer cyfweliadau yn y dyfodol.
Aeth Blwyddyn 12 hefyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ffair brentisiaethau a ffair prifysgolion. Roedd hon yn gyfle gwych i’r myfyrwyr siarad â chynrychiolwyr o amrywiaeth o brifysgolion a sefydliadau, gan ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Arwain a chyfrannu
Mae ein myfyrwyr Blwyddyn 13 wedi parhau i chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol. Arweiniodd y flwyddyn wasanaethau ysgol, gan rannu negeseuon a chyngor gwerthfawr gyda myfyrwyr o bob blwyddyn.
Cafwyd hefyd gyflwyniad i Senedd yr ysgol gan y tîm o brif swyddogion, gan roi cyfle i’r ysgol gyfan ddysgu mwy am eu rolau a’u cyfrifoldebau.
Llwyddiant ar y maes chwarae
Mae’r llwyddiant academaidd wedi cael ei adlewyrchu gan lwyddiant chwaraeon hefyd. Mae tîm cyntaf rygbi’r ysgol wedi mwynhau dechrau gwych i’r tymor, gan ennill nifer o gemau.
Ystafelloedd astudio newydd i’r Chweched Dosbarth
Heb os, un o uchafbwyntiau’r hanner tymor oedd agor dwy ystafell astudio newydd ar gyfer y Chweched Dosbarth.
Mae’r ddwy ystafell wedi’u hadnewyddu’n llwyr dros yr haf, gyda dodrefn newydd a mannau gwaith modern a chyfforddus. Maent bellach yn cynnig amgylchedd gwych i’n myfyrwyr astudio, cydweithio a chanolbwyntio ar eu gwaith.
Mae’r mannau newydd hyn yn ychwanegiad gwerthfawr i’n darpariaeth Chweched Dosbarth ac, yn bwysicaf oll, yn rhoi amgylchedd i’n myfyrwyr lle gallant weithio tuag at gyflawni eu potensial llawn.
Mae wedi bod yn hanner tymor cyntaf prysur, llawn cyfleoedd a llwyddiannau. Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr ac yn edrych ymlaen at weld beth fydd gweddill y flwyddyn academaidd yn ei gynnig!
Ffair UCAS
Ar ddydd Mawrth, 21 Hydref, cymerodd disgyblion Blwyddyn 12 ran mewn taith i Ffair UCAS yng Nghaerdydd i archwilio eu hopsiynau ar gyfer eu camau nesaf. Cawsant gyfle i ymweld a stondinau gan nifer o brifysgolion a chyflogwyr, a siarad gyda myfyrwyr am fywyd ar gampws. Cawsant gyfle i fynychu seminarau a dysgu am bwyntiau UCAS, graddau mynediad, cymorth cyllid myfyrwyr, a bywyd cymdeithasol yn y brifysgol. Gwelwyd y gwahaniaethau rhwng llwybrau academaidd traddodiadol a phrentisiaethau.
Noson Agored Academi Rhydywaun
Diolch enfawr i holl staff a myfyrwyr Academi Rhydywaun am eu gwaith caled yn ystod ein Noson Agored.
Agorwyd y noson gan Olivia a Lowri, ein Prif Swyddogion, a groesawodd bron i 100 o deuluoedd i’r ysgol. Roedd bwrlwm arbennig o amgylch y lle, ac roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am yr Academi ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.
Mae ceisiadau cynnar ar gyfer yr Academi bellach ar agor a disgyblion sydd eisoes wedi gwneud cais wedi derbyn llythyr ar gyfer Medi 2027. Wrth gwrs, rydym yn parhau i weithio gyda phob disgybl i’w gynorthwyo i ddod o hyd i’r cam nesaf cywir iddynt.
Gofynnwn yn garedig i unrhyw ddisgybl sy’n bwriadu dychwelyd i Rhydywaun y flwyddyn nesaf i gwblhau’r ffurflen gais cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau cynllunio’r cam cyffrous nesaf yn eich taith addysgol yma yn Rhydywaun.
Academi Rhydywaun
Sixth Form Highlights – First Half Term
It has been a very busy and exciting start to the new academic year at Rhydywaun Academy, with our Sixth Form students taking advantage of a wide range of opportunities to develop their skills, plan for the future and enjoy their experience at school.
Welcome to Year 12
Year 12 began the academic year with a special induction day, led by representatives from the University of South Wales. Students took part in team-building activities and listened to valuable presentations on study skills, university life and managing workload and pressure.
Year 12 also benefited from a week of taster lessons, giving every student the opportunity to experience a range of different subjects before making their final choices. This was an excellent way to help students make informed decisions about their future studies.
A Taste of University Life
Year 12 had the opportunity to visit Swansea University for a university experience day. The day provided students with an insight into life in higher education, with lectures covering a range of subjects including law, modern languages, geography, history, biomedicine and nursing.
Further opportunities to look towards the future were provided during a highly successful Personal and Social Education (PSE) day. Year 12 benefited from presentations from Cardiff University, focusing on university applications and the steps involved in preparing for life after school.
Preparing for the World of Work
Year 13 enjoyed a valuable day with Careers Wales, focusing on their options after leaving school. Students explored apprenticeships, writing effective CVs and how to prepare confidently for future interviews.
Year 12 also visited Cardiff City Stadium for an apprenticeships and university fair. This was a fantastic opportunity for students to speak with representatives from a wide range of universities and organisations and find out more about the opportunities available to them in the future.
Leadership and Contribution
Our Year 13 students have continued to play an important role in school life. They led school assemblies, sharing valuable messages and advice with students across the school.
There was also a special presentation to the school council from the Senior Leadership Team, giving students the opportunity to learn more about their roles and responsibilities.
Success on the Rugby Field
Academic success has been matched by sporting success, with the school’s first rugby team enjoying an excellent start to the season and securing a number of victories.
New Sixth Form Study Rooms
Without doubt, one of the highlights of the first half term was the opening of two newly refurbished Sixth Form study rooms.
Both rooms have been completely renovated over the summer, with new furniture and modern, comfortable workspaces. They now provide an excellent environment for our students to study, collaborate and focus on their work.
These new spaces are a valuable addition to our Sixth Form provision and most importantly, provide our students with an environment in which they can work towards achieving their full potential.
It has been a busy first half term, filled with opportunities, experiences and achievements. We are incredibly proud of our students and look forward to seeing what the rest of the academic year has in store!
UCAS Fair
On Tuesday, 21 October, Year 12 pupils took part in a trip to the UCAS Fair in Cardiff to explore their options for their next steps. They had the opportunity to visit stands from a range of universities and employers and talk to students about life on campus.
They also had the chance to attend seminars and learn about UCAS points, entry requirements, student finance support and social life at university. They explored the differences between traditional academic routes and apprenticeships.
Academi Rhydywaun Open Evening
A huge thank you to all the staff and students of Rhydywaun Academy for their hard work during our Open Evening.
The evening was opened by Olivia and Lowri, our Head Officers, who welcomed almost 100 families to the school. There was a real buzz around the school, and it was wonderful to see so many Year 11 pupils taking the opportunity to learn more about the Academy and make informed decisions about their futures.
Early applications for the Academy are now open and pupils who have already applied have received a letter confirming whether we are able to offer them a place for September 2027. As always, we are on hand to support every pupil to identify the right next step.
We kindly ask any pupil who intends to return to Rhydywaun next year to complete the application form as soon as possible. This will allow us to begin planning the exciting next stage of your educational journey here at Rhydywaun.

Eisteddfod yr Urdd Gwent, 2027
Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, cwblhewch y Google Form, os gwelwch yn dda.
Gweler y ddogfen isod am fanylion yr amrywiaeth o gystadlaethau sydd ar gael.
Ewch amdani!
If you are interested in competing in this year’s Urdd Eisteddfod, please complete the Google Form.
See the document below for details of the wide range of competitions available.
Go for it!
Siaradwr Gwadd Busnes : Andrew Minton
Ar 14 Medi, 2026 ddaeth yr entrepreneur Andrew Minton i siarad â disgyblion Blwyddyn 12 cyn iddynt ddechrau ar y gwaith cwrs ‘Cynllun Busnes’ hollbwysig ar gyfer Busnes Lefel 3. Mae’r disgyblion yn cael dewis datblygu syniad am eu busnes eu hunain yn seiliedig ar rywbeth sydd o ddiddordeb iddynt.
Roedd yn wych cael gwrando ar straeon Andrew (drwy gyfrwng y Gymraeg – aeth i Ysgol Llanhari) ac am y nifer o fusnesau y mae wedi’u sefydlu. Mae nifer wedi bod yn llwyddiannus, ond nid pob un! Soniodd am y sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol i fod yn entrepreneur llwyddiannus, gan gynnwys gwydnwch, brwdfrydedd a dyfalbarhad.
Roedd yr ymweliad mor lwyddiannus mae Andrew yn dychwelyd yn hwyrach yn y flwyddyn i weld sut mae’r disgyblion yn dod yn eu blaenau ac i rannu mwy o’i ddoethineb!
Diolch yn fawr iawn i ti, Andrew
Her ‘Prawf Blas’ Blwyddyn 10 Busnes Adwerthu
Mae disgyblion Blwyddyn 10 wedi bod yn dysgu am bŵer brandio ac yn ddiweddar wedi gwylio a gwerthuso’r rhaglen Eat Well for Less. Cawsom drafodaeth gynhyrchiol am frandiau a’r brandiau yr ydym yn ffyddlon iddynt.
Dywedodd Mr Stephens ei fod yn ffyddlon i saws brown HP a Weetabix – dydy e ddim yn hoffi’r copïau rhad! Ych a fi! Dywedodd rhai disgyblion yn hyderus y gallent adnabod brandiau, bwydydd a diodydd yn hawdd drwy gymryd rhan mewn ‘prawf blasu dall’.
Roedd y canlyniadau’n gymysg iawn! Dim ond tua hanner y disgyblion lwyddodd i ddyfalu’r brand cywir o’r labeli cudd! Mae hyn yn neges bwerus i’w chofio wrth wneud penderfyniadau wrth siopa yn yr archfarchnad!
Business Guest Speaker: Andrew Minton
On 14 September, 2026, entrepreneur Andrew Minton visited Year 12 pupils to speak to them before they began the important ‘Business Plan’ coursework for their Level 3 Business course. Pupils have the opportunity to develop their own business idea based on something that interests them.
It was fantastic to hear Andrew’s stories (shared in Welsh, as he attended Ysgol Llanhari) and learn about the many businesses he has set up. Several have been successful, although not all! He spoke about the skills and qualities needed to become a successful entrepreneur, including resilience, enthusiasm and perseverance.
The visit was such a success that Andrew will be returning later in the year to see how the pupils are progressing and share more of his wisdom!
A huge thank you to you, Andrew
Year 10 Retail Business ‘Blind Taste Test’ Challenge
Year 10 pupils have been learning about the power of branding and recently watched and evaluated the programme Eat Well for Less. We had a productive discussion about brands and the ones we remain loyal to.
Mr Stephens revealed that he is loyal to HP Brown Sauce and Weetabix – he doesn’t like the cheaper imitations! Ych a fi! Some pupils confidently claimed that they could easily identify brands, foods and drinks by taking part in a blind taste test.
The results were very mixed! Only around half of the pupils managed to guess the correct brand from the hidden labels! This was a powerful reminder of the influence of branding when making purchasing decisions in the supermarket.
Criw Catalyst 2026
Roedd yn bleser treulio amser yng nghwmni’r disgyblion Blwyddyn 8 sydd wedi’u dewis ar gyfer rhaglen Catalyst eleni. Aethom i Ysgol Llanhari i dreulio amser gyda chyn-fyfyrwyr Prifysgol Rhydychen ac i drafod y cwestiwn, ‘Pam mynd i’r brifysgol?’
Roedd y disgyblion yn frwdfrydig ac yn ymroddedig iawn, cawsant eu canmol am eu hymddygiad, ac fe wnaethant fwynhau dylunio eu prifysgol ddelfrydol.
Rydym yn edrych ymlaen at y sesiwn nesaf ym mis Mawrth!
Catalyst Crew 2026
It was a pleasure to spend time with the Year 8 pupils selected for this year’s Catalyst programme. We visited Ysgol Llanhari to meet Oxford University alumni and explore the question, ‘Why go to university?’
The pupils showed great enthusiasm and commitment, were praised for their excellent behaviour, and thoroughly enjoyed designing their ideal university.
We look forward to the next session in March!
Clwb Merched mewn STEM
Mae’r clwb wedi ailddechrau yn ystod amser cinio ar ddydd Mawrth, gyda merched o Flwyddyn 7 ac 8. Rydym wedi bod wrthi’n casglu syniadau ac yn cynnal arbrofion ar gyfer Calan Gaeaf.
Edrychwn ymlaen at yr hanner tymor nesaf, pan fyddwn yn cynnal arbrofion sy’n ymwneud â Noson Tân Gwyllt a’r Nadolig, yn ogystal â pharatoi i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Mae croeso i ragor o ferched ymuno â’r hwyl ar ôl hanner tymor!
Girls in STEM Club
The club has restarted on Tuesday lunchtimes, with girls from Years 7 and 8 taking part. We have been busy gathering ideas and carrying out experiments for Halloween.
We’re looking forward to next half term, when we’ll be carrying out experiments linked to Bonfire Night and Christmas, as well as preparing to compete in the Urdd Eisteddfod.
More girls are very welcome to join in the fun after half term!
Ymweliad Only Boys Aloud
Daeth Craig a Llinos o elusen Aloud i’r ysgol i gynnal gweithdy canu gyda chriw o fechgyn iau yr ysgol. Fel rhan o’r gweithdy roedd y bechgyn yn cymryd rhan mewn tasgau rhythm a thraw cyn mynd ati i ddysgu ac yna perfformio un o ganeuon Lewis Capaldi mewn harmoni. Roedd y bechgyn wedi ymateb yn wych. Cawsant gyfle hefyd i holi un o’n cyn-ddisgyblion, Joel Harris, am ei brofiadau fel un o aelodau gwreiddiol Only Boys Aloud a gafodd y cyfle i berfformio ar Britain’s Got Talent, recordio sawl albwm a perfformio mewn nifer o wledydd gyda OBA. Mae’r elusen yn dal i gynnal ymarferion am ddim i fechgyn o flwyddyn 7 ymlaen yn Theatr Soar ar nos Lun gyda’r gobaith o godi hyder bechgyn wrth ganu ac i gadw’r traddodiad o ganu corawl yng Nghymru yn fyw.
Only Boys Aloud visit
We welcomed Craig and Llinos from the Aloud charity to the school to run a singing workshop with a group of our junior boys. As part of the workshop the boys took part in rhythm and pitch activities before learning and then performing a Lewis Capaldi song in harmony. The boys were all excellent in the workshop. They also had the opportunity to have a question and answer session with one of our former pupils, Joel Harris, who was a member of the original Only Boys Aloud choir. He spoke about his time competing on Britain’s Got Talent, recording several albums and performing in many different countries during his time with OBA. The charity still hold free rehearsals for boys from year 7 onwards in Theatr Soar every Monday evening where they work on building confidence through singing and keeping the Welsh choral tradition alive.
Sioe Cwm Cynon
Dros wyliau’r haf, cynhaliwyd Sioe Flynyddol ‘Cwm Cynon’, a drefnwyd gan y Gymdeithas Arddwriaethol leol. Mae’r sioe’n cynnwys sawl categori, o lysiau a blodau anferth i gacennau a jamiau blasus.
Yn ogystal, cynhelir sawl cystadleuaeth celf a ffotograffiaeth sy’n agored i oedolion a disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd. Unwaith eto, gwnaeth gwaith celf ein disgyblion argraff ar y beirniaid, ac enillodd sawl un wobr neu ganmoliaeth arbennig gan y trefnwyr.
Mae aelodau’r gymuned leol wrth eu bodd yn gweld doniau artistig disgyblion Rhydywaun, ac mae eu gwaith celf yn helpu i greu awyrgylch hyfryd yng Nghlwb Cwmdâr.
Diolch i’r disgyblion am gymryd rhan eto eleni!
Cwm Cynon Show
Over the summer holidays, the annual ‘Cwm Cynon Show’, organised by the local Horticultural Society, took place. The show features a variety of categories, ranging from giant vegetables and flowers to delicious cakes and jams.
There are also several art and photography competitions open to adults and both primary and secondary school pupils. Once again, our pupils’ artwork impressed the judges, with several pupils winning awards or receiving special praise from the organisers.
Members of the local community are always delighted to see the artistic talents of Rhydywaun pupils, and their artwork helps to create a wonderful atmosphere at Cwmdare Club.
Thank you to all the pupils who took part again this year!
Cystadleuaeth Trawsgwlad yr Ysgol
Da iawn i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth trawsgwlad yr ysgol! Roedd hi’n wych gweld cymaint o ddisgyblion yn dangos gwydnwch a dyfalbarhad wrth wynebu amodau heriol iawn.
Diolch yn fawr i’r Adran ac i ddisgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13 am eu cymorth gwerthfawr yn ystod y digwyddiad.
School Cross-Country Competition
Well done to everyone who took part in the school cross-country competition! It was fantastic to see so many pupils demonstrating resilience and perseverance while facing some very challenging conditions.
A big thank you to the department and to our Year 11, 12 and 13 pupils for their valuable support throughout the event.
Pêl-fasged Cadair Olwyn
Braf oedd croesawu ein cyn-ddisgybl, Katie May Davies, yn ôl i’r ysgol i drafod pêl-fasged cadair olwyn gyda disgyblion Blwyddyn 10 sy’n astudio TGAU Addysg Gorfforol.
Wheelchair Basketball
It was lovely to welcome former pupil Katie May Davies back to school to talk to our Year 10 GCSE Physical Education pupils about wheelchair basketball

Awyr Agored Blwyddyn 12
Mae disgyblion Blwyddyn 12 Awyr Agored wedi mwynhau taith gerdded arbennig i’r Cribarth!
Year 12 Outdoor Education
Our Year 12 Outdoor Education pupils enjoyed a fantastic hike to Cribarth!

Pêl-droed Dan 13
Dyma ein tîm pêl-droed dan 13 oed sy’n cystadlu yng Nghwpan Pêl-droed.
Under-13 Football
Here is our Under-13 football team competing in the Football Cup

Hyfryd yw gweld cymaint o ddisgyblion Blwyddyn 7 yn ymarfer pêl-rwyd. Gwych, ferched!
It’s lovely to see so many Year 7 pupils practising netball. Well done, girls!
Rygbi Rhydywaun – Hanner Tymor 1
Tîm 1af
Ar ôl tymor anodd y llynedd gyda charfan ifanc, mae’r tîm wedi chwarae’n wych eleni. Gorffennon ni ar waelod y gynghrair y llynedd, ond ar ôl ennill pedair o’n pum gêm eleni, gorffennon ni yn yr ail safle.
Mae’r bechgyn wedi bod yn ymarfer yn gyson, ac mae’r gwaith caled wedi dwyn ffrwyth. Gan ein bod wedi gorffen yn ail, byddwn yn cystadlu am deitl Champion of Champions yn y gemau ailgyfle ar ôl hanner tymor.
Byddwn yn chwarae yn erbyn Cwm Rhymni, Bro Edern a Bro Morgannwg, gan frwydro am y cyfle i chwarae yn Stadiwm y Principality yn y rownd derfynol yn erbyn tîm gorau’r gorllewin.
Rydym yn gwybod y bydd y bechgyn yn rhoi popeth dros y bathodyn wrth wynebu timau cryf a chystadleuol, er mwyn ceisio cyrraedd y rownd derfynol yn Stadiwm y Principality!
Roedd yn destun balchder mawr gweld Ellis C, Noah H ac Ellis WD yn cael eu galw i ymuno â thîm Crawshays. Llongyfarchiadau enfawr i’r tri ar y cyflawniad gwych hwn!
Blynyddoedd 7 ac 8
Mae bechgyn Blwyddyn 7 wedi ymgartrefu’n dda, ac mae’r nifer sy’n mynychu’r sesiynau ymarfer wedi creu argraff ar Mr Harris a gweddill y staff. Maent wedi chwarae pedair gêm hyd yma ac yn gwella gyda phob gêm.
Mae merched Blwyddyn 7 wedi bod yn ymarfer yn galed ac wedi cymryd rhan mewn diwrnod hwyl a thwrnamaint rygbi. Gwych, ferched!
Mae Blwyddyn 8 hefyd wedi chwarae pedair gêm, ac mae’r bechgyn yn parhau i wella ac i ddatblygu drwy’r amser. Da iawn i’r ddwy garfan am eu hymroddiad a’u gwaith caled!
Blynyddoedd 9 a 10 – Cwpan Cymru
Ar ôl colli yn erbyn tîm cryf Ystalyfera ar ddechrau’r tymor, mae’r tîm wedi ennill pob un o’i gemau Cwpan Cymru yn erbyn ysgolion lleol. O ganlyniad, rydym wedi sicrhau lle yn y rowndiau cenedlaethol ar ôl hanner tymor.
Mae Blwyddyn 10 hefyd wedi trechu pob tîm arall yng Nghwm Cynon ar ôl ennill gêm anodd yn erbyn St John’s yr wythnos hon.
Cyrhaeddodd y bechgyn y rownd gyn-derfynol y llynedd, felly byddant yn gweithio’n galetach fyth i geisio mynd un cam ymhellach eleni. Pob lwc i’r ddwy garfan yn y gemau sydd i ddod!
Rhydywaun Rugby – Half-Term 1
First XV
After a difficult season last year with a young squad, the team has performed brilliantly this year. We finished bottom of the league last season, but after winning four out of our five games this year, we finished in second place.
The boys have trained consistently, and their hard work has paid off. Having finished second, we will compete for the Champion of Champions title in the play-off games after half-term.
We will face Cwm Rhymni, Bro Edern and another team from Cardiff, all competing for the opportunity to play in the Principality Stadium final against the strongest team from the west.
I know the boys will give everything for the badge as they take on some strong and competitive teams in their bid to reach the final at the Principality Stadium!
We were particularly proud to see Ellis C, Noah H and Ellis WD selected to represent the Crawshays team. Huge congratulations to both students on this fantastic achievement!
Years 7 and 8
The Year 7 boys have settled in well, and the impressive numbers attending training have caught the attention of Mr Harris and the rest of the staff. They have played four games so far and are improving with every match.
Our Year 7 girls have been training hard and took part in a fun day and rugby tournament. Well done, girls!
Year 8 have also played four games, and the boys continue to improve and develop. Well done to both squads for their commitment and hard work!
Years 9 and 10 – Welsh Cup
After losing to a strong Ystalyfera team at the start of the season, the team has gone on to win every Welsh Cup match against local schools. As a result, we have secured a place in the national rounds after half-term.
Year 10 have also beaten every other team in the Cynon Valley after securing a hard-fought victory against St John’s this week.
The boys reached the semi-final last year, so they will be working even harder to try to go one step further this season. Best of luck to both squads in their upcoming matches!
CALENDR YSGOL / SCHOOL CALENDAR
Isod mae copi o galendr ein hysgol ar gyfer y flwyddyn o’n blaenau.
Bydd manylion llawn unrhyw weithgareddau yn eich cyrraedd yn agosach at y digwyddiad.
Nid yw pob gweithgaredd/taith wedi nodi ar y fersiwn hon. Amlinelliad o ddigwyddiadiau yw hwn yn unig.
Bydd manylion unrhyw weithgareddau yn cael eu hychwanegu a byddwn yn eich hysbysu am y rhain drwy MyChildatSchool neu yn y cylchlythyron bob Hanner Tymor.
Below is a copy of our school calendar for the year ahead.
Full details of any activities will be sent closer to the event.
Not all activities/trips are listed on this version.
This is an outline of events only.
We will inform you of any activities that will be added on the calendar through MyChildAtSchool or in our Half Termly newsletters.
CEFNOGAETH ARIANNOL / FINANCIAL SUPPORT

PRESENOLDEB / ATTENDANCE
DIOGELU / SAFEGUARDING


Comments