Cylchlythyr Sulgwyn 2026 ** Whitsun Newsletter 2026
- Rhydywaun

- 2 days ago
- 10 min read

Pwt y Pennaeth
Ar ddiwedd yr hanner tymor hwn, bydd disgyblion Bl11 a myfyrwyr Bl13 yn ein
gadael ni.
Rydym yn falch iawn o bob un ohonynt ac yn dymuno’n dda iddynt ar
gyfer eu dyfodol boed yn symud ymlaen i brifysgol, coleg, prentisiaeth, gwaith,
neu’n dychwelyd yn ôl i’r 6ed dosbarth. Hoffem ddiolch o galon iddynt am eu holl
ymdrechion, gwaith caled a dyfalbarhad dros eu hamser yn Rhydywaun.
Hoffem ddiolch i holl staff yr ysgol hefyd am eu gwaith caled, di-baid a hefyd i rieni
a gwarcheidwaid ein disgyblion am eu holl gefnogaeth.
Mae mis cyntaf yr arholiadau wedi mynd yn dda iawn ac mae disgyblion
wedi ymateb yn wych. Bydd yr arholiadau yn parhau ar ôl gwyliau hanner tymor a
dymunwn y gorau i’n disgyblion i gyd.
Hanner tymor hapus i chi gyd!
Miss Lisa Williams
Headteacher’s Thoughts
I’d like to wish you all a very happy half term break.
At the end of this half term, our pupils in Year 11 & students in Year 13 will leave us. We are very proud of them all and wish them well for their future whether moving on to university, college, apprenticeship, work, or returning to the 6th form. We would like to sincerely thank them for all their efforts, hard work and perseverance over their time at Rhydywaun.
I would also like to thank all the school staff for their tireless hard work and also
the parents and guardians of our pupils for all their support.
The first month of the exams has gone very well and pupils have responded
brilliantly. The exams will continue after the half term break and we wish our pupils
all the very best.
A very happy half term holidays to you all!
Miss Lisa Williams
Hwyl fawr Blwyddyn 11 a 13!
Mae wir wedi bod yn bleser i weld pob un ohonoch chi'n aeddfedu a datblygu.
Mae wedi bod yn fraint i gydweithio gyda chi wrth i chi baratoi nid dim ond ar gyfer eich arholiadau allanol ond hefyd eich llwybrau dyfodol personol a bywyd tu hwnt!
Pob lwc gyda'ch arholiadau a pha bynnag llwybr rydych chi wedi dewis.
Goodbye Year 11 and 13!
It has truly been a pleasure to see each and every one of you mature and develop.
It has been a privilege to work with you as you prepared not only for your external exams but also for your personal future paths and life beyond!
Best of luck with your exams and whichever path you have chosen.
Diolch!
Rydw i wedi gwerthfawrogi fy amser yn Rhydywaun yn fawr, yn enwedig fel aelod o’r Chweched Dosbarth. Mae fy mhenderfyniad i ddod i’r Chweched Dosbarth yn sicr yn un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi’u gwneud yn academaidd ar gyfer fy Lefelau A, oherwydd y gefnogaeth rydych chi’n ei chael gan eich athrawon, tiwtoriaid a Phenaethiaid Blwyddyn.
O’r dosbarthiadau bach gydag athrawon sydd wedi eich adnabod ers Blwyddyn 7, i’r cymorth rydych chi’n ei gael yn ystod cyfnodau anodd fel arholiadau a dewis y cam nesaf ar gyfer y dyfodol, mae’r gefnogaeth wastad yna. Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a chyfleoedd arbennig yn y chweched dosbarth, fel prosiectau STEM Cymru i gystadlu am wobrau rhyngwladol, ac ymuno â Senedd yr ysgol am y tro cyntaf oherwydd yr hyder roedd bod yn rhan o Rhydywaun wedi ei roi i mi.
Mae cymaint o bethau anhygoel yn bosibl yn y Chweched Dosbarth wrth astudio eich pynciau, ac mae hynny’n digwydd oherwydd y gefnogaeth a’r ymroddiad mae’r staff yn eu rhoi i’r disgyblion.
Diolch yn fawr!
Olivia Meaker
Rhydywaun 2019 - 2026
Diolch!
I have greatly valued my time at Rhydywaun, especially as a member of the Sixth Form. My decision to join the Sixth Form is certainly one of the best academic decisions I have made for my A-Levels, because of the support you receive from your teachers, tutors, and Heads of Year.
From the small classes with teachers who have known you since Year 7, to the support you receive during difficult periods such as exams and choosing the next step for the future; the support is always there. I also had the opportunity to take part in a number of activities and special opportunities in the Sixth Form, such as STEM Cymru projects to compete for international awards, and joining the school Senedd for the first time because of the confidence that being part of the Sixth Form gave me.
There are so many amazing things possible in Rhydywaun while studying your subjects, and that happens because of the support and dedication the staff give to the pupils.
Diolch yn fawr!
Olivia Meaker
Rhydywaun 2019 - 2026
Sŵn y Senedd Senedd Soundings
Mae’r Senedd wedi bod yn brysur eleni – dyma ei hadroddiad blynyddol.
The Senedd has been busy this year – here is their annual report.
Ymweliad gan gwmni Philtronics, Hirwaun
Roedd yn hyfryd croesawu cwmni lleol, Philtronics, i siarad â merched Blwyddyn 7 ac 8 ynglŷn â gwaith y cwmni a gyrfaoedd ym maes peirianneg. Fe wnaeth y merched fwynhau’r cyfle i drafod cyfleoedd gyda’r cwmni ac i ymchwilio i effaith golau ar y seinyddion.
Visit from Philtronics, Hirwaun
It was lovely to welcome the local company, Philtronics, to speak with Year 7 and 8 girls about the company’s work and careers in engineering. The girls enjoyed the opportunity to discuss opportunities with the company and to investigate the effect of light on the speakers.
Clwb Merched mewn STEM
Prosiect y clwb STEM dros yr hanner tymor oedd ymchwilio i gylchred bywyd y Fantell Dramor. Fe wnaeth merched y clwb (a’r disgyblion sydd wedi bod yn gweithio yng Ngwyddoniaeth 8!) fwynhau gwylio’r newidiadau dros yr wythnosau, ac roedd yn hyfryd eu rhyddhau allan i’r caeau.
Girls’ STEM Club
The STEM club’s half-term project was to investigate the life cycle of the Painted Lady butterfly. The girls in the club (and the pupils who have been working in Science 8!) enjoyed watching the changes over the weeks, and it was lovely to release them into the fields.
Mr Davies ym Mhalas Buckingham! Llongyfarchiadau mawr i Mr Ceri Davies ar y fraint arbennig o fynychu Parti Gardd ym Mhalas Buckingham fel rhan o ddathliadau Gwobr Dug Caeredin.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r profiad arbennig hwn!
Mr Davies at Buckingham Palace!
Huge congratulations to Mr Ceri Davies on the special honour of attending a Garden Party at Buckingham Palace as part of the Duke of Edinburgh Award celebrations.
We hope you enjoyed this very special experience!

Miri Mawr Ebrill
Diolch i griw o ddisgyblion Blwyddyn 9 a gynrychiolodd yr ysgol mewn digwyddiad Miri Mawr ar 29 Ebrill. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Sobell, ac fe’i trefnwyd ar y cyd gan y Fenter Iaith a Miri Mawr.
Pwrpas y digwyddiad oedd hybu addysg Gymraeg o fewn y gymuned, ac roedd hi’n braf gweld 30 o deuluoedd yn mynychu, gyda nifer ohonynt yn gyn-ddisgyblion sydd am adeiladu perthynas â’r Gymraeg.
Yn ystod y digwyddiad, cynrychiolodd Lleu L, Ioan R, Nia H-J a Gwenllian G ysgol yn wych drwy siarad â rhieni, plant ac asiantaethau allanol, gan fanylu ar eu profiadau o fynychu Ysgol Rhydywaun ac ar addysg Gymraeg.
Diolch yn fawr iddynt am eu hyder a’u cyfraniadau gwych at y diwrnod!
Miri Mawr Ebrill
Thanks to a group of Year 9 pupils who represented the school at a Miri Mawr event on the 29th of April. The event was held at Sobell Leisure Centre and was jointly organised by Menter Iaith and Miri Mawr.
The purpose of the event was to promote Welsh-medium education within the community, and it was wonderful to see 30 families attending, many of whom were former pupils who wish to strengthen their relationship with the Welsh language.
During the event, Lleu L, Ioan R, Nia H- and Gwenllian G represented the school excellently by speaking with parents, children and external agencies, explaining their experiences of attending Ysgol Rhydywaun and Welsh-medium education.
Many thanks to them for their confidence and their excellent contributions to the day!

Gweithgareddau Blwyddyn 6
Mae Mrs Thomas a Miss Pugh wedi ymweld ag Ysgolion Cynradd y Clwstwr i archwilio teimladau drwy’r celfyddydau, gan edrych yn bennaf ar deimladau disgyblion Blwyddyn 6 ynghylch pontio i Flwyddyn 7. Bu’r disgyblion yn archwilio sgiliau anadlu a rheoli teimladau drwy ddrama, gwrando ac ymateb i gerddoriaeth, a chreu darnau o gelf.
Bydd gwaith y disgyblion yn cael ei arddangos yn Ysgol Rhydywaun fel ffordd o groesawu disgyblion i’r ysgol ym mis Medi. Bydd darn o waith, wedi’i ysbrydoli gan yr artist Rebecca F Hardy, eisoes yma yn aros amdanynt fel rhan o arddangosfa Blwyddyn 6/7.
Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda’r disgyblion, ac edrychwn ymlaen at eu croesawu i’r ysgol ar gyfer y diwrnod pontio ar ôl y Sulgwyn.
Year 6 Activities
Mrs Thomas and Miss Pugh have visited our Cluster Primary Schools to explore emotions through the arts, focusing mainly on the feelings of Year 6 pupils about the transition to Year 7. The pupils explored breathing techniques and emotional regulation through drama, listening and responding to music, and creating pieces of artwork.
The pupils’ work will be displayed at Ysgol Rhydywaun as a way of welcoming pupils to the school in September. A piece of artwork, inspired by the artist Rebecca F Hardy, is already here waiting for them as part of the Year 6/7 exhibition.
It has been a privilege to work with the pupils, and we look forward to welcoming them to the school for the transition day after Whitsun.
Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Pob hwyl i Thomas W, Blwyddyn 8, sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Ynys Môn wythnos nesaf, ac i Reeva ac Elena, Blwyddyn 8, sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth dawnsio stryd.
Pob lwc i chi gyd!
Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Best of luck to Thomas W, Year 8, who is competing in the harp competition at the Anglesey Eisteddfod next week, and to Reeva and Elena, Year 8, who are competing in the street dancing competition. Good luck to you all!
Da iawn Darcie!
Llongyfarchiadau mawr i Darcie H, Blwyddyn 8, am ennill y wobr gyntaf dros Gymru gyfan am ei darn arbennig o waith celf eleni. Mae hon yn gamp anhygoel ac yn glod mawr iddi.
Bydd gwaith Darcie yn cael ei arddangos yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn dros hanner tymor – da iawn ti!
Da iawn Darcie!
Huge congratulations to Darcie H, Year 8, for winning first prize across the whole of Wales for her outstanding piece of artwork this year. This is an incredible achievement and a great credit to her.
Darcie’s work will be displayed at the Urdd Eisteddfod in Anglesey during half term – well done!

Athletau
Dechrau yn y glaw, gorffen yn yr haul – diwrnod gwych arall o athletau i ddisgyblion Ysgol Rhydywaun! Llongyfarchiadau i Gwen R am ddod yn 3ydd yn y naid hir, Charlie Ph yn 6ed yn y pwys, Betty L am ennill y ras 800m a thorri record ysgol Blwyddyn 8, Curtis J yn 2ail yn rownd derfynol y 100m, Caleb J yn 2ail yn rownd derfynol y 200m, Dexter P yn 6ed yn rownd derfynol y clwydi, a Rachael am ennill y clwydi a’r gwaywffon.
Mae Tîm Athletau Blwyddyn 9 a 10 wedi gwneud yn arbennig o dda ym Mhencampwriaethau’r Sir eleni. Enillodd Charlie T, Blwyddyn 9, y ddisgen, ac enillodd Ted L y naid driphlyg. Bydd y ddau yn symud ymlaen i gynrychioli’r Sir dros yr haf. Bydd Mia-Grace D ac Ella H yn cynrychioli’r Sir yn y ras gyfnewid hefyd.
Mae Meg O’C hefyd wedi cael ei dewis i gynrychioli’r Sir yn y pwys, ar ôl ennill categori Blwyddyn 11/12.
Llongyfarchiadau mawr i chi gyd!
Athletics
Starting in the rain and finishing in the sunshine – another fantastic athletics day for Ysgol Rhydywaun pupils! Congratulations to Gwen R for finishing 3rd in the long jump, Charlie Ph 6th in shot put, Betty L for winning the 800m and breaking the Year 8 school record, Curtis J for finishing 2nd in the 100m final, Caleb J 2nd in the 200m final, Dexter P 6th in the hurdles final, and Rachael for winning both the hurdles and javelin events.
The Year 9 and 10 Athletics Team performed exceptionally well at this year’s County Championships. Charlie T, Year 9, won the discus event, while Ted L won the triple jump. Both will go on to represent the County over the summer. Mia-Grace D and Ella H will also represent the County in the relay race.
Meg O’C has also been selected to represent the County in shot put after winning the Year 11/12 category.
Huge congratulations to you all!
Cystadleuaeth Rygbi 7 bob ochr yr Urdd
Mae timau rygbi merched Blwyddyn 8 a 9, a merched Blwyddyn 7, wedi cynrychioli’r ysgol yn wych yng nghystadleuaeth Rygbi 7 bob ochr yr Urdd. Da iawn i chi gyd!
Llongyfarchiadau enfawr hefyd i dîm rygbi Blwyddyn 11 am ennill y gystadleuaeth Plât am yr ail dro mewn tair blynedd. Camp arbennig ac enghraifft wych o ganlyniad gwaith caled dros y blynyddoedd. Da iawn chi!
Urdd 7-a-side Rugby competition
The Year 8 and 9 girls’ rugby teams, along with the Year 7 girls’ team, represented the school brilliantly in the Urdd 7-a-side Rugby competition. Well done to you all!
Huge congratulations also to the Year 11 rugby team for winning the Plate competition for the second time in three years. A fantastic achievement and a wonderful example of the rewards of hard work over many years. Well done everyone!
Rosslyn Park 2026
Daeth tîm Blwyddyn 9 yn ail yn ei grŵp gyda pherfformiadau cryf iawn yng nghystadleuaeth 7 bob ochr Rosslyn Park.
The Year 9 Rosslyn Park 7-a-side team finished second in their group with some very strong performances.

Disgyblion Talentog Rhydywaun
Llongyfarchiadau enfawr i Cerys G ym Mlwyddyn 11 am ddod yn Bencampwraig Cymru Kumite Karate.
Llongyfarchiadau i Harrison L am ddod yn Bencampwr Paffio Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol – camp anhygoel. Llongyfarchiadau i Max T am gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Paffio Cymru, gan ennill medal arian ar ôl dechrau bocsio ychydig fisoedd yn ôl yn unig ac ar ei ail ornest.
Llongyfarchiadau hefyd i Gwen R am gael ei dewis i chwarae pêl-droed i Academi Cymru.
Da iawn pawb – mae dyfodol disglair o’ch blaenau.
Rhydywaun's Talented Pupils
Huge congratulations to Cerys G in Year 11 for becoming the Welsh Kumite Karate Champion.
Congratulations also to Harrison L for becoming Welsh Boxing Champion for the third year in a row – an incredible achievement.
Congratulations to Max T for reaching the final of the Welsh Boxing Championships, winning a silver medal after only starting boxing a few months ago and in just his second bout. Congratulations also to Gwen R for being selected to play football for the Wales Academy. Well done everyone – a bright future lies ahead.

Calendr 2026
Dyma galendr ein hysgol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd manylion llawn unrhyw weithgareddau yn cael eu rhannu'n agosach at bob digwyddiad. Nid yw pob gweithgaredd neu daith wedi’u cynnwys yn y fersiwn hon – amlinelliad yn unig ydyw.
Bydd manylion ychwanegol yn cael eu hychwanegu, a byddwn yn eich hysbysu drwy MyChildAtSchool neu yn y cylchlythyron bob hanner tymor.
Byddwn yn croesawu ein holl ddisgyblion yn ôl i’r ysgol ar ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.
2026 Calendar
This is our school calendar for the year ahead.
Full details of any activities will be shared closer to each event.
Not all activities or trips are included in this version – it is an outline only. Additional details will be added, and we will notify you via MyChildAtSchool or in the half-term newsletters.
We will welcome all pupils back to school on Monday, 1 June 2026.
CEFNOGAETH ARIANNOL / FINANCIAL SUPPORT

PRESENOLDEB / ATTENDANCE
DIOGELU / SAFEGUARDING
















































































Comments