Pythefnos brysur iawn! / A busy fortnight!

Dydd Iau (15.10.26) – Diwrnod ABCh
Blwyddyn 7 – gwisg ysgol fel arfer.
Blynyddoedd 8, 9, 10 ac 11 – bydd angen i ddisgyblion wisgo eu cit Addysg Gorfforol swyddogol i’r ysgol (nid cit timau rygbi, dillad eu hunain na sandalau/Crocs neu esgidiau sy’n debyg).
Blynyddoedd 12 a 13 – mae’r trefniadau eisoes wedi’u rhannu gyda disgyblion gan Mr Gareth M Jones.
Bydd tiwtoriaid dosbarth yn rhannu amserlen y dydd yn ystod amser cofrestru.
Dydd Iau (15.10.26) – Noson Opsiynau Blwyddyn 11, 16:30–18:30
Dewch i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn Academi Rhydywaun.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar MyChildAtSchool ac ar Google Classroom Blwyddyn 11.
Dydd Gwener (16.10.26) – Llun Aberfan
Rydym yn bwriadu ail-greu ffotograff i gofio trychineb Aberfan, lle bydd holl ddisgyblion a staff yr ysgol yn sefyll ar yr iard. Bydd drôn yn cael ei ddefnyddio i dynnu’r llun, ac ni fydd modd adnabod disgyblion unigol yn y ddelwedd.
Gofynnwn i bob disgybl wisgo’r wisg ysgol gywir, os gwelwch yn dda.
Bydd y llun yn cael ei gyhoeddi ar 21 Hydref, 2026.
Dydd Iau (22.10.26) – Noson Rhieni Bugeiliol (rhithiol) Blwyddyn 7, 15:15–18:15
Mae disgyblion wedi derbyn llythyr heddiw (dydd Mawrth, 13.10.26) yn cynnwys manylion ynghylch sut i drefnu apwyntiad ar-lein.
Dydd Gwener (23.10.26) – Diwrnod Hyfforddiant i Staff
Ni fydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion ar y diwrnod hwn.
Thursday (15.10.26) – PSE Day
Year 7 – normal school uniform.
Years 8, 9, 10 and 11 – pupils will need to wear their official school PE kit to school (not club rugby team kit, their own clothes or Crocs style shoes/sandals).
Years 12 and 13 – the arrangements have already been shared with pupils by Mr Gareth M Jones.
Form tutors will share the schedule for the day during registration.
Thursday (15.10.26) – Year 11 Options Evening, 16:30–18:30
Come along to find out more about the range of courses available at Academi Rhydywaun.
Further information is available on MyChildAtSchool and on the Year 11 Google Classroom.
Friday (16.10.26) – Aberfan Photograph
We are planning to recreate a photograph to commemorate the Aberfan disaster, with all pupils and staff standing on the school yard. A drone will be used to take the photograph, and individual pupils will not be identifiable in the image.
We kindly ask all pupils to wear the correct school uniform.
The photograph will be published on 21 October, 2026.
Thursday (22.10.26) – Year 7 Pastoral Parents’ Evening (virtual), 15:15–18:15
Pupils received a letter today (Tuesday, 13.10.26) containing details of how to book an appointment online.
Friday (23.10.26) – Staff Training Day
There will be no school for pupils on this day.



Comments